Pedwar wedi'u hanafu ar faes pebyll ger Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio yn dilyn digwyddiad ar faes gwersylla ger Caernarfon lle cafodd pedwar o bobl eu hanafu.
Roedd y pedwar ohonynt - dau ddyn a dwy ddynes - yn eu pebyll pan gafodd car ei yrru dros y safle yn oriau mân fore Llun.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi cael eu galw toc wedi 02:00, ac fe gafodd un ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ag anafiadau difrifol.
Mae'r tri pherson arall gafodd eu hanafu bellach wedi gadael yr ysbyty.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus ac o yrru dan ddylanwad alcohol.
'Digwyddiad brawychus'
"Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus iawn i bobl ddylai fod wedi teimlo'n ddiogel yn eu pebyll," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Sion Williams.
"Mae Heddlu'r Gogledd yn cynnig cefnogaeth i'r bobl, ac mae ein meddyliau gyda theulu'r ddynes gafodd anafiadau drwg.
"Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoedd sydd wedi bod o gymorth i ni, ond os oes unrhyw un sydd heb siarad gyda ni eto ac sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth pellach, yna cysylltwch â ni os gwelwch yn dda."
Dylai pobl ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod X119854.