Tri wedi'u hanafu wedi i gar droi drosodd

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans Awyr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Ambiwlans Awyr wedi gorfod glanio mewn cae gyferbyn â'r A55

Cafodd rhan o ffordd yr A55 ei chau tua'r gorllewin wrth i'r Ambiwlans Awyr ymateb i gar sydd wedi troi drosodd.

Fe gafodd tri o bobl eu hanafu yn y digwyddiad, gan gynnwys dau blentyn.

Bu'r ffordd ar gau rhwng cyffordd 13 ger Abergwyngregyn a chyffordd 12 Tal-y-bont am tua dwy awr fore Mercher, ond mae'r ffordd bellach ar agor i'r ddau gyfeiriad.

Fe wnaeth yr Ambiwlans Awyr lanio mewn cae gyferbyn a'r ffordd ac roedd dwy injan dân, un o Fangor a'r llall o Landudno yn bresennol.

Cafodd un person ei gludo mewn ambiwlans ffordd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ac fe gafodd dau eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl.

Wrth i'r gwasanaethau brys ymateb, bu'r tagfeydd yn ymestyn yn ôl at gyffordd 15, Llanfairfechan.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ceir yn ciwio'n ôl at gyffordd 15 Llanfairfechan