Becws yn Wrecsam yn addo 'adfer' y busnes wedi tân
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid becws yn Wrecsam a gafodd ei ddifrodi'n sylweddol mewn tân ddydd Llun yn dweud y byddan nhw'n gweithio'n galed i adfer y dinistr a achoswyd.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Village Bakery am 08:41 fore Llun, ac mae swyddogion yn parhau ar y safle ddydd Mawrth i chwistrellu dŵr.
Dywedodd y cwmni bod pawb oedd yn y becws wedi gadael y safle yn ddiogel.
Ar ôl archwilio'r safle dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Robin Jones: "Nid oes amser gennym ni i deimlo'n flin dros ein hunain ac mae gwaith caled i adfer y dinistr yn dechrau heddiw.
"Mae wedi bod yn arbennig o galonogol i weld y negeseuon cefnogol hyfryd gan staff, presennol a blaenorol, yn cael eu postio ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â'r gefnogaeth gan ein cwsmeriaid a'n cyflenwyr.
"Mae wedi bod yn brofiad hyfryd i ni sylweddoli'r parch mawr sydd gan gynifer o bobl tuag atom ni.
"Unwaith eto, rwyf am dalu teyrnged i'r tîm rhyfeddol yma sydd wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau ein bod yn goresgyn yr ergyd hon."
Cafodd y tân - a gychwynnodd mewn ardal gynhyrchu - ei reoli erbyn canol prynhawn dydd Llun.
Mae pedwar injan dân a dau blatfform yn parhau ar y safle yn cynorthwyo gyda'r gwaith o rwystro'r tân rhag ailgynnau.
Cafodd y busnes ei sefydlu yn ardal Coedpoeth, Wrecsam, yn 1964, ac erbyn hyn mae'n darparu cynnyrch i siopau Asda, Tesco, Spar, Co-op a McColls.
"Rydyn ni'n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni dros y blynyddoedd wrth adeiladu enw da'r Village Bakery fel cwmni teuluol sydd â chenhadaeth i wneud y cynhyrchion o'r ansawdd gorau, gan ddefnyddio ein sgiliau fel pobyddion crefft a buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf," meddai Mr Jones.
"Heb os, bydd yr egwyddorion hyn yn ein sefyll mewn sefyllfa dda wrth i ni ymdrechu i fynd yn ôl ar y trywydd iawn cyn gynted â phosibl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2019
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2013