Cau rhan o reilffordd yn y gogledd yn dilyn tirlithriad

  • Cyhoeddwyd
twnnel ffestiniogFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Network Rail fod y tirlithriad wedi digwydd yn y twnnel ger Blaenau Ffestiniog

Mae rhan o reilffordd Dyffryn Conwy rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog wedi cau oherwydd tirlithriad.

Dywedodd Network Rail bod cerrig mawr wedi disgyn ar y llinell yn Nhwnnel Blaenau Ffestiniog, gan atal trenau rhag gallu pasio.

Fydd y gwasanaeth rhwng gorsafoedd Gogledd Llanrwst a Blaenau Ffestiniog ddim yn rhedeg eto nes o leiaf 09:00 ddydd Gwener, wrth i'r gwaith atgyweirio ddigwydd.

Yn y cyfamser mae bysus yn cael eu trefnu i gludo teithwyr rhwng y ddwy orsaf, a'r bwriad yw y bydd y drefn honno'n parhau ddydd Iau.