Achub dau wedi damwain ar gwch ym Môr Hafren

  • Cyhoeddwyd
Map Môr HafrenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cwch hanner ffordd rhwng Penrhyn Gwyr ac Ilfracombe yng ngogledd Dyfnaint

Mae dau o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty yng Nghaerdydd mewn hofrennydd yn dilyn damwain ar fwrdd cwch ym Môr Hafren.

Fe dderbyniodd gwylwyr y glannau yn Hwlffordd alwad brys ychydig cyn 17:00 yn galw am gymorth.

Cafodd un o'r ddau oedd ar fwrdd y cwch anaf i'w ben ar ôl cael ei daro gan drawst.

Digwyddodd y ddamwain hanner ffordd rhwng arfordir Gwŷr a gogledd Dyfnaint.

Cafodd bad achub Ilfracombe ei anfon i'w cynorthwyo, ynghyd â hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Sain Tathan.

Fe hedfanodd yr hofrennydd y ddau i Gaerdydd er mwyn iddyn nhw gael eu trosglwyddo i Ysbyty Prifysgol Cymru.

Roedd disgwyl i griw'r bad achub dywys y cwch yn ôl i'r porthladd.