15,000 o bobl yn mynychu gwyl Pride Cymru yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yw'r Prif Weinidog cyfredol cyntaf i arwain gorymdaith Pride

Roedd 15,000 o bobl yn bresennol yng ngwyl Pride Cymry yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford oedd yn gyfrifol am arwain yr orymdaith yng Nghaerdydd - y tro cyntaf i'r Prif Weinidog cyfredol wneud hynny yn hanes yr achlysur sy'n cael ei chynnal am yr 20fed tro eleni.

Bydd hefyd yn rhoi anerchiad ar brif lwyfan y digwyddiad gan danlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion ac i wella gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl drawsryweddol.

"Rwy'n falch iawn o fod yn gyfaill cefnogol i bobl LGBTQ+ o bob cwr o Gymru, a gorymdeithio gyda chi," meddai Mr Drakeford, wrth edrych ymlaen at gymryd rhan yn y parêd.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Mae strydoedd yn ardal y Neuadd Ddinesig eisoes ar gau tan ddydd Llun ar gyfer dathliadau'r penwythnos Gŵyl Band ond mae mwyafrif strydoedd canol y brifddinas hefyd ar gau ddydd Sadwrn, dolen allanol ar gyfer yr orymdaith, sy'n dechrau am 11:00.

Yn ôl trefnwyr, fe wnaeth hyd at 15,000 o bobl gymryd rhan yn orymdaith y llynedd, ac maen nhw'n dweud bod disgwyl i achlysur eleni "fod yn fwy o ran maint, sŵn a lliw nag erioed".

Dywedodd Mr Drakeford bod "Pride yn fwy na dathliad", gan atgoffa cymdeithas i beidio cymryd datblygiadau ac agweddau cadarnhaol at y gymuned LGBTQ+ yn ganiataol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn cymryd rhan i ddangos ei "ymrwymiad fel cyfaill i bobl LGBTQ+ yng Nghymru"

Dywedodd ei fod yn "cofio dyddiau tywyll y 1980au pan oedd llywodraeth elyniaethus a'r wasg yn dilorni ac yn bychanu dynion hoyw a lesbiaid yn rheolaidd" a bod tactegau tebyg yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn erbyn pobl traws.

"Rhaid i ni wrthod rhagfarn o'r fath lle bynnag y bo'n bodoli yn ein cymunedau," meddai. "Rhaid i ni sefyll yn gadarn yn erbyn pob ffurf ar homoffobia, biffobia a thrawsffobia.

"Gyda'n gilydd, gallwn greu Cymru lle mae pobl LGBTQ+ yn cael eu derbyn yn ddieithriad."