Disgwyl 50,000 yng Nghaerdydd ar gyfer dathliadau Pride

  • Cyhoeddwyd
Pride CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dathliadau wedi'u lleoli o flaen Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd

Mae Atomic Kitten, Texas a Liberty X ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio wrth i 50,000 o bobl heidio i Gaerdydd ar gyfer dathliadau Pride Cymru dros y penwythnos.

Eleni yw'r 20fed tro i'r ŵyl gael ei chynnal yn y ddinas, a bydd y dathliadau'n dechrau ddydd Gwener.

Fe fydd ymweliadau gan y gantores Samantha Mumba a'r dylunydd ffasiwn Gok Wan hefyd ymysg y prif atyniadau.

Parêd milltir o hyd trwy ganol y ddinas ddydd Sadwrn fydd prif ddigwyddiad yr ŵyl, sy'n "dathlu amrywiaeth o fewn ein cymunedau".

Bydd y digwyddiad, sydd wedi'i leoli o flaen Neuadd y Ddinas, yn cynnwys pedwar llwyfan, bwyd stryd, marchnad a sioe gŵn.

'Mae angen Pride'

Dywedodd cadeirydd Pride Cymru, Gian Molinu: "Dros y misoedd diwethaf mae pobl wedi gofyn i mi sawl gwaith 'Ydyn ni'n dal angen Pride?'

"Fy ateb pob tro ydy 'oes' ac mae unrhyw un sy'n gofyn y cwestiwn hwnnw angen agor eu llygaid ac edrych o'u hamgylch.

"Tra bod pobl mas 'na sy'n teimlo ei bod yn iawn i ymosod ar rywun oherwydd eu rhywioldeb neu hunaniaeth, tra bod nifer o wledydd ble mae'r gosb eithaf yn bodoli am fod yn LHDT+ , tra bod llefydd ble mae priodi'r person rydych chi'n ei garu yn anghyfreithlon am eich bod o'r un rhyw, mae angen Pride."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Parêd trwy ganol Caerdydd ddydd Sadwrn fydd prif ddigwyddiad yr ŵyl

Mae pobl sy'n mynychu'r digwyddiad wedi cael eu rhybuddio y gallan nhw wynebu oedi wrth deithio i'r brifddinas, yn enwedig ddydd Sul am fod rhai llinellau rheilffyrdd ar gau oherwydd gwaith peirianneg.

Ni fydd unrhyw drenau rhwng Caerdydd a Chas-gwent na Chaerdydd a Glyn Ebwy nes 14:00, gyda gwasanaeth bws yn rhedeg yn lle'r trenau.

Bysiau fydd hefyd yn rhedeg yn lle trenau rhwng gorsaf Stryd y Frenhines yng Nghaerdydd a Phontypridd nes 12:30.

Bydd y ffyrdd ar gau yn ardal Neuadd y Ddinas trwy gydol y penwythnos, ond ar gyfer y parêd ddydd Sadwrn bydd y mwyafrif o ffyrdd ynghanol y ddinas ar gau.