Annog Pride Cymru i wrthod cefnogaeth noddwr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchydd hawliau dynol yn galw ar Pride Cymru i wrthod cefnogaeth gan gwmni sy'n rhoi arian i wleidyddion Americanaidd sy'n "gweithio yn erbyn" hawliau LHDT.
Mae Peter Tatchell yn dweud fod cefnogaeth General Electric (GE) i ŵyl fwyaf LHDT Cymru, sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, yn "anaddas".
Dywedodd mai'r rheswm oedd fod y cwmni wedi cefnogi gwleidyddion sy'n cael eu beirniadu gan grwpiau LHDT am eu record pleidleisio.
Dywedodd GE eu bod yn "benderfynol" o gefnogi hawliau dynol ac amrywiaeth.
'Rhagrith'
Yn ôl Pride Cymru, maen nhw wedi gweithio gyda phartneriaid corfforaethol i "godi ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n wynebu'r gymuned LHDT".
Mae disgwyl i'r ŵyl flynyddol, sy'n cael ei chynnal ar ddiwedd y mis, ddenu torf o dros 50,000 i Gaerdydd dros dridiau.
Mae cwmni GE ymysg y "cefnogwyr" swyddogol, sy'n rhoi swm llai o arian nag un o'r prif noddwyr.
Yn ôl gwaith ymchwil gan y newyddiadurwr o America, Judd Legum, mae naw cwmni sydd wedi derbyn y radd uchaf gan grŵp Ymgyrch Hawliau Dynol (HRC) yn yr Unol Daleithiau wedi rhoi dros $1m i wleidyddion.
Fe gafodd y gwleidyddion hynny'r sgôr isaf gan HRC, yn sgil eu record pleidleisio ar faterion LHDT.
Dywedodd Mr Legum wrth BBC Cymru: "Y pwynt yw dangos fod y cwmnïau hyn sy'n cefnogi a rhoi'r argraff o'r tu allan eu bod yn garedig tuag at faterion hoyw... tu ôl i'r llenni maen nhw yn ariannu gwleidyddion sy'n gweithio i danseilio hawliau LHDT.
"Felly dwi'n credu fod 'na ragrith sydd angen ei ddatgelu."
Mae GE Aviation yn cyflogi 1,400 o bobl, ac mae ei ffatri cynnal a chadw wedi'i leoli yn Nantgarw ger Caerffili.
Dywedodd Mr Tatchell, sy'n ymgyrchu dros hawliau dynol ers blynyddoedd, nad yw hi'n addas i'r cwmni gefnogi Pride Cymru.
"Does gen i ddim gwrthwynebiad i gwmnïau corfforaethol ariannu digwyddiadau Pride, dim ond eu bod nhw wedi cael eu gwirio'n briodol, a'u bod nhw'n gwmnïau sydd ddim yn buddsoddi mewn gwledydd ble mae bod yn hoyw'n drosedd, a'r ffaith nad ydyn nhw'n ariannu gwleidyddion sydd yn erbyn hawliau LHDT.
"Dwi'n gobeithio bydd Pride Cymru yn ailystyried derbyn General Electric fel noddwyr. Nid yw'n foesol na'n addas."
'Torri'r rhwystrau'
Mae Cadeirydd Pride Cymru, Gian Molinu wedi ymateb drwy ddweud ei bod hi'n bwysig i Pride Cymru weithio gyda chwmnïau rhyngwladol.
"Drwy weithio gyda nhw, rydym yn torri'r rhwystrau drwy sicrhau eu bod nhw'n gwrando ar leisiau pobl yn y gymuned LHDT.
"Mae'n bwysig nad ydyn ni yn camu i ffwrdd rhag gweithio gyda'r sefydliadau hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni GE: "Rydym wedi ymrwymo i gefnogi hawliau dynol, amrywiaeth a gweithredoedd moesol o fewn ein gwasanaethau a'r gadwyn gyflenwad.
"Mae GE yn gyflogwr cyfartal sydd wedi'i ymrwymo i gefnogi a datblygu ein gweithwyr LHDT."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2019
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019