Record newydd am dymheredd uchaf ddiwedd mis Awst
- Cyhoeddwyd
Mae record newydd wedi'i osod yng Nghymru am y tymheredd uchaf ar gyfer penwythnos gŵyl y banc mis Awst.
Roedd y tymheredd yng Ngogerddan ger Aberystwyth yn 27.4C ddydd Sadwrn yn ôl y Swyddfa dywydd.
Y record flaenorol oedd 27.3C yn Felindre, Powys yn 2013. Y tymheredd uchaf ar gofnod yng Nghymru yw 35.2C ym Mhont Penarlâg ar 2 Awst, 1990.
Mae disgwyl i'r tywydd braf barhau drwy gydol y penwythnos.