Cwpan y Gynghrair: Abertawe 6-0 Caergrawnt
- Cyhoeddwyd

Jordon Garrick yn dathlu ei gôl gyda George Byers (chwith)
Mae Abertawe drwodd i drydedd rownd Cwpan y Gynghrair ar ôl rhoi crasfa i Gaergrawnt o 6-0 yn Stadiwm Liberty nos Fercher.
Kristoffer Peterson, George Byers, Sam Surridge (2), Jordon Garrick a Wayne Routledge oedd sgorwyr yr Elyrch.
Fe sgoriodd y tîm cartref bump o'i goliau yn yr hanner cyntaf, yn erbyn gwrthwynebwyr sy'n chwarae yn Adran Dau.
Mae'r fuddugoliaeth yn parhau â rhediad da rheolwr newydd Abertawe, Steve Cooper, gyda'r tîm yn eistedd yn ail yn y Bencampwriaeth ar ôl y bum gêm agoriadol.
Bydd Abertawe yn wynebu Watford o'r Uwch Gynghrair oddi cartref yn y rownd nesaf.