Y gromlech aeth ar daith o Fethesda i Awstralia
- Cyhoeddwyd
Oeddech chi'n gwybod bod 'na Fangor a Menai ar ben arall y byd yn Awstralia?
Mae'n 25 mlynedd ers i gromlech gael ei chludo'r holl ffordd o chwarel Penrhyn ym Methesda i barc yn New South Wales i ddathlu'r cysylltiad.
Cafodd y ddwy faestref eu henwi gan Owen Jones, a symudodd yno o Wynedd yn yr 19eg ganrif.
Mae Parc Menai, sydd rhyw 35 milltir o Sydney, bellach yn ganolbwynt i gysylltiadau Celtaidd Awstralia - a'r gromlech Gymreig yn ganolbwynt i'r cyfan.
Vera Wilson, o Fangor, gafodd y cais o Awstralia i helpu gyda'r gofeb.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl yr alwad ffôn am bump o'r gloch ar fore Sul ein hamser ni," meddai, "ac ella 'mod i braidd yn gysglyd pan nes i addo'r gromlech."
Y peth cynta' i'w wneud oedd mynd i Chwarel y Penrhyn ym Methesda i gael y deunyddiau ar gyfer y gromlech.
'Dangos tipyn o hiraeth'
"Ar ôl i mi ddewis y cerrig a'r llechi, oedd eisiau eu rhoi nhw ar lori o Fethesda i Tilbury, chwe wythnos ar y môr wedyn," meddai.
"Rhag iddyn nhw gael eu torri yn yr hold, roedd rhaid eu rhoi nhw ar y dec. Ddiwedd Awst, chwarter canrif yn ôl yn 1994, gafodd y gromlech ei sefydlu yn ffurfiol.
"Roedd 'na ŵyl Geltaidd fawr yno ac mae 'na rai eraill wedi dilyn ers hynny.
"Degawd diwetha'r 19eg ganrif, mi aeth Owen Jones o Fangor yng Ngwynedd i Awstralia. Roedd o'n gweithio a byw yn Sydney ond roedd rhaid talu rhent go drwm yno.
"Cafodd grŵp o Annibynwyr grant o dir, ac roedd o'n Annibynnwr mawr. Felly mi ddaru nhw benderfynu mynd i'r pishyn yma o dir oedd wrth Afon George.
"Mi feddyliodd Owen Jones bod yr afon yn debyg i'r Fenai ac felly mi alwodd yr ardaloedd yn 'Bangor' a 'Menai'. Dwi'n meddwl bod hynny'n dangos tipyn o hiraeth."
Mae 'na lawer o strydoedd a thai yn yr ardal wedi cael enwau Cymraeg hefyd oherwydd y cysylltiad.
Roedd Vera Wilson wedi cyfrannu at enw'r parc lle mae'r gofeb er mwyn sicrhau'r elfen Gymreig.
"Nes i ofyn a fysan nhw'n sillafu parc efo 'c' ar y diwedd os oedd hi'n mynd i fod yn ganolfan Geltaidd hefyd.
"Mae pobl leol wedi cymryd at y lle, maen nhw'n mynd yno amser cinio ac ati. A does neb wedi difrodi'r gromlech chwaith - mae 'na barch yna tuag ati.
"Ar y gromlech, dwi 'di dweud bod hi yno trwy garedigrwydd Chwarel y Penrhyn a thrwy Gymdeithas Trigolion Treborth a'r Cylch."
'Cerwch i weld tipyn o Gymru'
Gyda chwarter canrif wedi pasio ers i'r gromlech gael ei gosod ben arall y byd, mae Vera Wilson yn falch o'r hanes ond yn synnu bod cyn lleied o Gymry yn gwybod am y cysylltiad.
"Mae 'na lot yn teithio i Awstralia, mwy a mwy y dyddiau yma. Cerwch i weld tipyn bach o Gymru yno.
"O'n i wedi meddwl sefydlu amgueddfa yno hefyd ond doedd cael yr arian a'r gefnogaeth ddim yn hawdd o gwbl.
"Faswn i'n hoffi'n fawr petai hyn yn digwydd yn y dyfodol, a'n bod ni ddim yn anghofio hanes."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2018