Addewid o filiynau o gynlluniau addysg Boris Johnson

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i wario'r arian ar addysg

Bydd Cymru'n derbyn o leiaf £355m y flwyddyn am y tair blynedd nesaf o ganlyniad i addewid gan y Prif Weinidog Boris Johnson i wario ar ysgolion yn Lloegr.

Fe fydd ysgolion dros y ffin yn derbyn cyfanswm o dros £7bn erbyn 2022-23, sy'n golygu y bydd Cymru hefyd yn derbyn rhagor o arian.

Dyw hi ddim yn glir eto sut y bydd yr arian yn cael ei wario yng Nghymru, ac mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi annog Llywodraeth Cymru i'w wario ar addysg hefyd.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddan nhw'n gwneud sylw ar gyhoeddiad Mr Johnson "nes i'r manylion llawn gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Cairns y gall "gweledigaeth" Boris Johnson fod o fudd i ddisgyblion ledled Cymru

Bydd Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn arian oherwydd Fformiwla Barnett, sydd â'r nod o rannu cyfoeth o amgylch y DU.

"Fel prif flaenoriaeth i bobl ledled y DU, rydw i nawr yn annog Llywodraeth Cymru i wario'r arian newydd yma ar wella addysg, gan roi'r cyfle i bob plentyn yng Nghymru gyrraedd eu llawn botensial," meddai Mr Cairns

"Fel hyn gall gweledigaeth y Prif Weinidog fod o fudd i ddisgyblion a staff dysgu ar draws Cymru a'r DU."

Dywedodd Mr Cairns mai dyma'r "cynnydd mwyaf mewn gwariant ar addysg mewn cenhedlaeth".