System gyllido Cymru yn "gymhleth ac anhryloyw"

  • Cyhoeddwyd
arian

Mae'r drefn o bennu cyllid i lywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn "gymhleth" ac "anhryloyw", yn ôl un o bwyllgorau San Steffan.

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin wedi galw am fwy o graffu a thryloywder am y system gyllido.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod diffyg llyfr rheolau clir yn golygu fod y sefydliadau datganoledig "bob tro ar drugaredd cynllwynion Whitehall".

Mae'r Trysorlys wedi cael cais am ymateb.

Mae'r adroddiad aeth gerbron y Pwyllgor yn dweud:

  • Fod trefniadau cyllido i'r llywodraethau datganoledig yn "fwyfwy cymhleth ac mae diffyg tryloywder am sut y mae penderfyniadau cyllido'n cael eu gwneud";

  • Mae gallu gweinidogion i ddosrannu cyllid y tu allan i Fformiwla Barnett heb wneud taliadau i'r cenhedloedd eraill "yn ei gwneud yn amhosib penderfynu a yw penderfyniadau cyllido'n cael eu seilio ar angen";

  • Dyw'r Trysorlys "ddim yn gwybod a yw'r grant cyllido blynyddol i'r cenhedloedd yn adlewyrchu'n gywir anghenion trigolion ar draws y DU";

  • Mae penderfyniadau'r Trysorlys am gyllido cynlluniau Llywodraeth y DU yn "effeithio ar y cyllid sy'n cael ei roi i'r llywodraethau datganoledig a'u gallu i gynllunio a rheoli eu cyllid".

Fe wnaeth aelodau'r Pwyllgor hefyd fynegi pryder am yr "ansicrwydd sy'n cael ei achosi gan fod Llywodraeth y DU wedi gohirio'r adolygiad gwariant, ac absenoldeb penderfyniad sut y bydd yn gwneud yn iawn am gyllido presennol o'r Undeb Ewropeaidd".

Disgrifiad,

Steffan Powell o BBC Newsbeat sy'n esbonio beth yw Fformiwla Barnett

Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru: "Rwy'n croesawu'n fawr adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae'n ategu'r hyn yr ydym wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd.

"Mae Fformiwla Barnett wedi mynd heibio'i gyfnod, ac mae angen rhywbeth yn ei le sy'n seiliedig ar angen go iawn.

"Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y cytundeb arian sydd gennym bellach gyda Llywodraeth y DU, ac mae hynny'n esiampl o'r cyfeiriad y dylen ni fod yn mynd tuag ato.

"Ond mae hefyd yn dangos sut, heb gael llyfr o reolau clir, bod llywodraethau datganoledig bob tro ar drugaredd cynllwynion Whitehall."

'Anheg'

Cynigiodd Mr Drakeford gyflog athrawon fel enghraifft. Bydd athrawon Cymru'n derbyn codiad cyflog o 2.75% - penderfyniad San Steffan.

Ond dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r adran [addysg] yn Lloegr yn dweud y gallan nhw ganfod yr arian i dalu am y codiad cyflog o arian sydd eisoes yn bodoli yn yr adran, ac mae hynny'n filiynau ar filiynau o bunnoedd.

"Os ydyn nhw'n gwneud hynny, maen nhw'n osgoi gorfod rhoi arian i Gymru a'r Alban i dalu am y codiad cyflog yn y ddau le. Mae hynny'n gwbl annheg, ac nid dyna fel cafodd y system ei gynllunio i weithredu.

"Dyna'r math o gynllwynion sy'n cael sylw yn yr adroddiad, ac mae'n dweud fod rhaid cael system decach a mwy tryloyw ac agored fel nad yw Whitehall yn gallu gweithredu yn y modd yna yn y dyfodol."