Protestiadau mawr yn erbyn Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae protestiadau wedi eu cynnal mewn sawl rhan o Gymru wrth i ymgyrchwyr ddangos eu gwrthwynebiad i gynlluniau'r Prif Weinidog i ystyried Brexit heb gytundeb - a chau drysau San Steffan am gyfnod.
Fe ddaeth torf sylweddol i ganol Caerdydd, ac fe ddaeth tua 500 i'r gwrthdystiad ym Mangor.
Roedd y protestiadau ymhlith nifer fawr i'w cynnal dydd Sadwrn gan ymgyrchwyr gwrth-Brexit, gan gynnwys gwrthdystiadau yn Aberystwyth, Abertawe a Hwlffordd.
Mae Llywodraeth Prydain wedi ategu eu bod yn ceisio sicrhau cytundeb ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ac wedi dweud y bydd gan San Steffan ddigon o amser i drafod Brexit.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns: "Dwi ddim yn gwybod pam mae pobl yn cwyno."
Yn ôl Mr Cairns: "Tri diwrnod ychwanegol mae'r Senedd wedi ei chau - mae digon o amser wythnos 'nesa i drafod Brexit".
Ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru
Dydd Sadwrn fe ddatgelodd Cwnsler Cyffredinol Cymru, Jeremy Miles ei fod yn "ymyrryd mewn achos cyfreithiol yn yr uchel lys ac yn cefnogi her gyfreithiol Gina Miller yn erbyn cyngor y Prif Weinidog i'r Frenhines i ohirio Senedd y DU."
Mae Ms Miller, ar y cyd a'r cyn brif Weinidog John Major, a dirpwy y Blaid Lafur Tom Watson, yn gobeithio atal cynlluniau Boris Johnson i gwtogi'r amser fydd ar gael i Aelodau Seneddol gwrdd ym mis Medi.
Dywedodd Mr Miles: "Mae'r Cynulliad wedi cydsynio i ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â Brexit yn y Senedd sy'n effeithio ar feysydd datganoledig ar y sail y byddai'r Senedd yn gallu parhau i eistedd i basio'r deddfau hynny.
"Mae gohirio Senedd y DU yn amddifadu ASau o'r cyfle i graffu'n briodol ar Lywodraeth y DU, ac i ddeddfu ar y telerau a fyddai'n galluogi'r DU i adael yr UE pe dymunent.
"Mae gan Aelodau'r Cynulliad yma yng Nghymru rôl hanfodol hefyd o ran cynghori'r Senedd ar sut y bydd Brexit heb gytundeb yn effeithio ar elfennau craidd yr economi a chymunedau yng Nghymru. Ni ellir gwneud hyn os yw'r Prif Weinidog wedi torri'r llinellau cyfathrebu.
"Nid ar chwarae bach yr wyf yn gwneud yr ymyrraeth hon. Fel Swyddog y Gyfraith, mae dyletswydd arnaf i gynnal rheolaeth y gyfraith a'r cyfansoddiad. Mae'r cyflwyniadau yr wyf wedi'u cyflwyno yn y Llys yn angenrheidiol, yn briodol, ac yn gymesur i amddiffyn buddiannau Cymru o ran sicrhau bod y Senedd yn cael eistedd.
"Nid yw fy ymyrraeth yn ailadrodd pwyntiau a wnaed gan yr Hawlydd, Gina Miller; nid ydynt chwaith yn ceisio'r hawl, ar hyn o bryd, i wneud cyflwyniadau llafar. Fy mwriad yw cynorthwyo'r Llys i benderfynu ar y materion cyfreithiol, ac egluro pam eu bod yn hanfodol bwysig i Gymru, ei phobl a'i deddfwrfa."