'Digon' o wrthryfelwyr i atal Brexit heb gytundeb
- Cyhoeddwyd
Wrth i Aelodau Seneddol baratoi ar gyfer gwrthdaro ar lawr Tŷ'r Cyffredin yr wythnos hon mae Aelod Seneddol Cymreig wedi dweud bod digon o'i gyd-aelodau ceidwadol yn barod i wrthryfela yn erbyn y llywodraeth .
Yn siarad ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar BBC Radio Cymru dywedodd Guto Bebb, Aelod Seneddol Aberconwy, bod angen disgyblaeth ar draws ffiniau pleidiol er mwyn rhwystro'r paratoadau i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Bydd y gwrthbleidiau yn ceisio cyflwyno mesur seneddol yr wythnos hon allai atal Brexit heb gytundeb, ond mae disgwyl i weinidogion Boris Johnson wrthwynebu hynny yn ffyrnig.
Yn ôl Guto Bebb: "Mae 'na amser dal i ddeddfu yn erbyn gadael heb gytundeb, ond fydd hynny yn golygu bod angen disgyblaeth draws bleidiol a bydd rhaid i'r ddisgyblaeth aros yn gwbl gadarn os yw'r posibilrwydd i adael heb gytundeb gael ei osgoi."
Pan ofynnwyd iddo sawl Ceidwadwr sydd yn barod i wrthryfela yn erbyn y llywodraeth dywedodd Mr Bebb: "Digon".
Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi ategu bod ymdrechion yn parhau i gesio cael cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac wedi addo bydd digon o amser ar gael i Aelodau Seneddol er mwyn trafod Brexit, er gwaetha'r penderfyniad i gau drysau'r Senedd yn gynharach na'r disgwyl ym Mis Medi.
Mewn datblygiad arall mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi dweud y dylai'r pleidiau sydd yn gwrthwynebu Brexit fod yn barod i ymgyrchu o blaid dileu erthygl 50 os na fydd refferendwm yn cael ei gynnal.
Dywedodd bod angen i cael "opsiwn niwclear" rhag ofn bydd ei angen er mwyn osgoi "uffern" gadael heb gytundeb.