Economi Cymru wedi tyfu'n uwch na'r cyfartaledd ddiwedd 2018
- Cyhoeddwyd
Fe dyfodd economi Cymru yn uwch na'r cyfartaledd ar draws Prydain rhwng dechrau Hydref a diwedd Rhagfyr 2018.
Fe gafodd y twf o 0.3% ei achosi'n bennaf gan weithgarwch yn y sectorau adeiladu, cludiant a storio ac addysg.
Dyma'r tro cyntaf y mae modd dadansoddi'r economi mor fanwl yma, a hynny ar ôl i'r Swyddfa Ystadegau gyhoeddi ffigyrau GDP penodol i Gymru fel arbrawf.
Yn ystod chwarter olaf 2018 (Hydref-Rhagyr), fe dyfodd y sector cludiant a storio 5% yng Nghymru. Fe dyfodd y sectorau adeiladu (3.3%) ac addysg (3.3%) hefyd.
Ond roedd yna grebachu o 0.6% yn y sector gweithgynhyrchu, 1.2% yn y sector amddiffyn a gweinyddiaeth gyhoeddus, a 0.9% mewn gwaith cymdeithasol.
De ddwyrain Lloegr oedd yr unig ranbarth o Brydain a dyfodd yn fwy na Chymru yn ystod y cyfnod o dan sylw.
Un o'r cwmnïau sydd wedi elwa o'r twf yn y sector adeiladu ydy cwmni MacBryde Homes yn Sir Ddinbych.
Maen nhw yn codi 150 o dai yn Abergele ar hyn o bryd - y rhan fwyaf wedi eu gwerthu yn barod.
Yn ôl y Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwyn Jones: "Mae 'na demand mawr am dai i bobl leol.
"Mae'r cynllun Help to Buy yng Nghymru wedi helpu, ac mae pethau'n mynd yn gyflym ar bob site."
"'Den ni'n gwerthu lot o dai i bobl 30 oed sy'n byw 'efo mam a dad ac sydd wedi bod yn aros i rywbeth ddod i fyny yn eu pentref nhw."
Yn ôl Mr Jones, gallai ffigyrau GDP manylach fod yn ddefnyddiol: "Os ydy'r economi ddim yn gweithio fel dylse fo, mae hwnna'n gallu effeithio faint o brynwyr sydd gennym ni'n dod ymlaen.
"'Den ni'n edrych ar investment ni, ar sites newydd, ydy o yna? Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod yr economi yn tyfu."
Beth ydy GDP?
GDP ydy un o'r ffyrdd o fesur faint sy'n cael ei gynhyrchu yn yr economi.
O dan yr hen drefn, roedd rhyw 3,000 o gwmnïau'n cael eu cynnwys yn y ffigyrau chwarterol.
O dan y drefn newydd, mi fydd 80,000 o gwmnïau o Gymru a rhanbarthau Lloegr yn rhan o'r data.
Mae hyn yn golygu y bydd modd cymharu ar draws sectorau a hefo ardaloedd gwahanol o Brydain.
Dylai roi darlun mwy cywir o economi Cymru gan ddangos lle mae hi'n tyfu neu grebachu.
Yn Wrecsam mae Huw Owens newydd brynu siop optegydd A1 Eyewear.
Mae'r sector yn weddol gyson, ond mae Mr Owens yn croesawu'r ffocws newydd ar economi Cymru.
"Dwi'n meddwl bod o'n beth da i Gymru ac i fusnes yn gyffredinol, mae'n beth da i gael dadansoddiad mwy manwl o'r economi.
"Ond o ran be' mae'n 'neud i ni o ddydd i ddydd, fyswn i ddim yn defnyddio'r ffigyrau yna i newid fy ffordd."