Adolygiad dosrannu arian yn 'annheg' ar ffermwyr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynrychiolwyr amaeth yng Nghymru yn dweud bod angen rhannu arian yn deg i holl wledydd y DU wedi adolygiad o'r gefnogaeth i ffermwyr.
O ganlyniad i adolygiad annibynnol i'r diwydiant, bydd Llywodraeth San Steffan yn rhoi £5.2m yn ychwanegol i ffermwyr Cymru ar gyfer y cyfnod hyd at 2022.
Ond wrth ymweld â'r Alban ddydd Gwener, fe gyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson bod ffermwyr yno'n derbyn £51.4m dan yr un telerau, yn ogystal â thaliad ychwanegol o £160m.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi croesawu'r arian newydd, ond mae undebau amaeth yn dweud bod rhoi cymaint yn fwy o arian i'r Alban yn "annheg iawn ar ffermwyr Cymru".
Edrychodd adolygiad dan arweiniad yr Arglwydd Bew i'r ffactorau ynghlwm â dosbarthu taliadau Polisi Amaeth Cyffredin (CAP) yr Undeb Ewropeaidd ar draws gwledydd y DU.
Roedd y pot ariannol dan sylw yn ymwneud â sicrhau cefnogaeth ariannol fwy cyfartal ymhlith aelodau'r UE.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd yn "creu fformiwla sydd wedi ei deilwra'n fwy priodol" ac y byddai'r diwydiant yn barod am "ddyfodol llewyrchus" wedi Brexit.
Bydd rhagor o arian yn achos ffermio ardaloedd mwy heriol, fel yr ucheldiroedd, oedd yn arfer cael llai o arian CAP yr hectar na'r cyfartaledd.
'Llunio ein polisïau ein hunain'
"Mae casgliadau'r adolygiad yma yn adeiladu ar ymroddiad Llywodraeth y DU i ddelifro ar ran ffermwyr Cymru," meddai Mr Cairns.
"Rwy'n falch iawn o gadarnhau y byddwn yn derbyn argymhellion ariannol yr adolygiad, a bydd ffermwyr Cymru'n derbyn dros £5m mewn arian newydd dros y ddwy flynedd nesaf.
"Mae hwn yn esiampl glir o sut bydd gadael yr UE yn rhoi cyfle i ni lunio ein polisïau ein hunain sy'n well ar gyfer y bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu."
Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts bod yr undeb "wedi croesawu'r penderfyniad i gynnal adolygiad dosbarthu [arian] ar sail ffactorau amgylcheddol, amaethyddol, cymdeithasol ac economaidd".
Ond ychwanegodd bod yr undeb "wedi dadlau ers sbel bod angen dosrannu arian yn deg" ac y gallai "rhoi £160m ychwanegol i'r Alban ystumio'r farchnad ar raddfa ddigynsail ac mae'n annheg iawn ar ffermwyr Cymru".
"O ganlyniad, mae'r newid yma o ran nawdd, sy'n lleihau taliadau Cymru ar gyfartaledd, yn debygol o waethygu'r gwahaniaethau rhwng busnesau fferm yn y gwahanol wledydd, sy'n gorfod cystadlu yn yr un farchnad," meddai.
'Diffyg cydbwysedd'
Er eu bod wedi croesawu'r cyhoeddiad, dywedodd undeb NFU Cymru y gallai'r ffaith fod Yr Alban yn derbyn cymaint yn fwy "greu diffyg cydbwysedd" yn y farchnad.
"Ar amser ble mae ansicrwydd digynsail yn wynebu ffermio yng Nghymru, mae'r newyddion y bydd y cyllid yn cael ei ddiogelu, am y tro, i'w groesawu," meddai'r llywydd John Davies.
"Ar ôl y refferendwm fe wnaeth NFU Cymru osod nifer o egwyddorion allweddol ar gyfer polisi ffermio ar ôl Brexit, ac un o'r rheiny oedd bod ffermio yng Nghymru'n parhau'n gystadleuol gyda gweddill y DU, yr UE a gweddill y byd.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw, fydd yn gweld amaeth Yr Alban yn derbyn swm sylweddol o arian ychwanegol, â'r potensial i greu diffyg cydbwysedd o fewn marchnad y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2019
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018