Cyflwyno cynlluniau i achub morglawdd Caergybi
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i drwsio a gwella'r morglawdd sy'n amddiffyn porthladd Caergybi wedi cael eu cyflwyno.
Yn ôl Cyngor Sir Ynys Môn, mae tonnau yn erydu seiliau'r morglawdd 1.7 milltir o hyd - y morglawdd hiraf ym Mhrydain.
Fe ddywed y cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno ar ran y cyngor na fyddai modd gweithredu'r porthladd ar gyfer llongau fferi heb y morglawdd.
Dywedodd adroddiad blaenorol y gallai'r strwythur gael ei ddryllio ymhen 15 mlynedd os na fyddai gwaith atgyweirio yn digwydd.
Yn 2013 fe wnaeth cwmni Stena Line, sy'n berchen ar y morglawdd, ei bod yn costio oddeutu £150,000 y flwyddyn i gynnal a chadw'r strwythur.
Mae'r cynllun i'r atgyweirio yn cael ei ddatblygu ar y cyd rhwng Stena Line, Cyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.
"Mae'r morglawdd yn rhan o'r isadeiledd hanfodol er mwyn gweithrediadau'r porthladd, gan roi cysgod o'r elfennau mwyaf eithafol i longau fferi a llongau eraill," medd yr adroddiad.
"Heb y morglawdd mae'n debygol y byddai'r tonnau yn cynyddu tan ein bod mewn sefyllfa nad oes modd rhedeg y llongau fferi, gan arwain at gau'r porthladd a cholli'r cyswllt rhyngwladol i Iwerddon o Gymru a Lloegr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019