Un yn ymddiswyddo wedi atal darlledu cyfarfodydd cyngor
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor tref Penmaenmawr yn sir Conwy wedi ailfeddwl ynglŷn â darlledu eu cyfarfodydd yn fyw ar y we oherwydd rhesymau data cyfrinachol neu rhag ofn i aelod gael tro gwael.
Mae penderfyniad cyngor tref Penmaenmawr wedi arwain at ymddiswyddiad un cynghorydd, Denise Fisher, sy'n dweud eu bod yn "osgoi bod yn dryloyw".
Fe wnaeth tri chwarter o'r aelodau bleidleisio o blaid penderfyniad i beidio parhau i we-ddarlledu cyfarfodydd er gwaetha'r ffaith fod £400 wedi cael ei wario ar offer darlledu.
Mae Cyngor Conwy yn parhau i ddarlledu eu cyfarfodydd nhw.
'Pryderon'
Dywedodd clerc cyngor y dref, Martin Hanks fod y penderfyniad wedi'i gymryd gan y cyngor llawn a'i fod yn "hollol dryloyw a democrataidd".
Ychwanegodd: "Fe gododd nifer o bryderon yn sgil darlledu cyfarfodydd.
"Mae'r rhain yn cynnwys y posibilrwydd o dorri rheolau gwarchod data neu'r posibilrwydd y bydd salwch difrifol neu ddamwain yn digwydd a'r cyhoedd yn dod i wybod am hyn cyn aelodau o deulu'r aelod."
Yn ôl Mr Hanks, mae'r penderfyniad yn debyg i lawer o gynghorau lleol eraill yng Nghymru.
"Mae dadleuon positif a rhai negyddol wedi bod. Dychmygwch os caiff rhywun drawiad ar y galon? Cyn i'r teulu ddod i wybod, buasai'r darllediad byw yn datgelu hyn yn syth i'r cyhoedd.
"Fe allai rhywun fod yn sâl neu efallai chwydu," meddai Mr Hanks.
'Nonsens'
Mae rhai cynghorwyr hefyd yn pryderu am ymosodiadau ar-lein yn dilyn "ymosodiadau digyfiawnhad a chelwyddog", gydag un yn cwyno am fygythiadau yn erbyn ei fywyd.
Dywedodd Ms Fisher fod y sylwadau am drawiad ar y galon a chwydu yn y cyfarfod yn "nonsens".
Dywedodd fod y rheswm data cyfrinachol ddim yn ddilys gan fod y darllediad yn cael ei droi i ffwrdd os oedd unrhyw faterion sensitive neu bersonol yn cael eu trafod.
"Byddai darlledu'r cyfarfodydd yn rhoi'r cyfle i bobl oedrannus sydd ddim eisiau dringo'r grisiau serth i gyrraedd y cyfarfodydd i wybod beth sydd yn mynd ymlaen, a'r un rheswm i bobl sy'n gweithio shifftiau neu sydd â phroblemau gwarchod plant," meddai.
"Mae nifer o gynghorau lleol a chynghorau sir yn gwneud hyn, gan gynnwys Cyngor Conwy," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn "siomedig i gamu lawr" a'i bod wedi bod yn anhapus gyda nifer o benderfyniadau diweddar gan y cyngor.