'Bwyta llai o gig ddim yn gwneud gwahaniaeth i hinsawdd'
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog amaeth Cymru wedi gwrthod galwadau ar i bobl fwyta llai o gig er mwyn delio â newid hinsawdd.
Nododd adroddiad diweddar gan y Cenhedloedd Unedig bod gwledydd y gorllewin yn bwyta llawer iawn o gig a chynnyrch llaeth, a bod hynny'n cyfrannu at gynhesu byd eang.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, bod galwadau o'r fath yn "targedu" ffermwyr a bod cynhyrchu cig yng Nghymru yn "hynod o gynaliadwy".
Mae Cyfeillion y Ddaear wedi dweud bod bwyta llai o gig yn hanfodol ar gyfer gostwng allyriadau.
'Rhan hanfodol o'r frwydr'
Doedd adroddiad y Cenhedloedd Unedig ddim yn dweud bod rhaid i bawb fod yn figan neu'n llysieuwr ond nododd y byddai bwyta diet sy'n seiliedig ar blanhigion yn helpu.
Mae amaethyddiaeth - ynghyd â choedwigaeth - yn gyfrifol am chwarter allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae bridio da byw drwy ddatgoedwigo, ynghyd â'r methan y mae anifeiliaid yn ei gynhyrchu, hefyd yn cyfrannu at gynhesu byd eang.
Yn 2016 roedd amaethyddiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am 12% o allyriadau - roedd 62% yn nwy methan, 28% yn ocsid nitraidd a 10% yn garbon deuocsid.
Dywedodd Clare Oxborrow o Gyfeillion y Ddaear bod bwyta llai a chael cig a chynnyrch llaeth gwell yn "rhan hanfodol o'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd".
"Mae cynhyrchu da byw ar raddfa eang yn cael effaith andwyol mewn llefydd fel yr Amazon a Cerrado wrth i goedwigoedd gael eu dymchwel a chynefinoedd gael eu dinistrio er mwyn sicrhau tir pori ar gyfer anifeiliaid," meddai.
'Dewis personol'
Wrth siarad ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd Ms Griffiths bod ffermwyr yn teimlo eu bod yn cael amser caled ac yn cael eu targedu.
"Be 'da ni angen edrych arno yw'r ffordd mae cig yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru. Mae'n hynod o gynaliadwy ac mae modd gostwng allyriadau wrth brynu'n lleol," meddai.
Wrth ateb cwestiwn ar fwyta llai o gig nododd nad oedd hi'n credu bod angen i bobl fwyta llai, ac mai cael y "cydbwysedd sy'n bwysig - dwi'n credu mai dewis personol yw e".
Yn gynharach eleni fe gytunodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ceisio gostwng allyriadau carbon 95% erbyn 2050 - er bod gweinidogion yn dweud mai bod yn "ddi-garbon" yw'r nod.
Mae'r 95% wedi cael ei argymell gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, a nodwyd nad oedd modd i Gymru fod yn gwbl ddi-garbon oherwydd pwysigrwydd y diwydiant amaeth i gymunedau gwledig.
Un sy'n cefnogi sylwadau Ms Griffiths yw Paul Williams, ffermwr cig eidion o Bentrefoelas ger Betws-y-coed, sydd hefyd yn gadeirydd NFU Clwyd.
Dywedodd ei fod yn teimlo bod ffermwyr yn cael bai ar gam a'u bod yn "darged hawdd".
"Dyw'r byd amaeth yng Nghymru ddim am beidio cwrdd â'r her o ostwng allyriadau carbon ond mae'r ffordd y mae Cymru yn cael ei ffermio yn golygu bod llawer o garbon yn cael ei storio," meddai.
"Rhaid cofio fod y ffordd y mae cig eidion yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru a Phrydain yn llawer mwy effeithlon na chig o Dde America.
"Mae cig eidion yn aml yn cael ei gludo ar gwch o Iwerddon i Wlad Pwyl er mwyn cael ei dorri a'i bacio ac yna mae'n cael ei allforio yn ôl yma i'w werthu yn archfarchnadoedd Prydain. Pa fath o ôl troed carbon mae hynna yn ei roi?"
'Ymateb gor-syml'
Dywedodd Hybu Cig Cymru mai "ymateb gor-syml" oedd canolbwyntio ar fwyta llai o gig er mwyn delio â newid hinsawdd.
Ychwanegodd llefarydd nad oedd amaethyddiaeth yng Nghymru i raddau helaeth yn "ffermio dwys a'i fod yn ddibynnol ar law naturiol a phorfa i fridio da byw".
Sunday Politics Wales, BBC One Wales, 10:00 ar 15 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019