Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi cynlluniau Brexit di-gytundeb

  • Cyhoeddwyd
Comp no deal

Mae cadw stoc o gynnyrch meddygol a buddsoddi mwy mewn banciau bwyd ymysg y mesurau sy'n cael eu paratoi er mwyn helpu Cymru pe byddai'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Hefyd yng nghynllun gweithredu, dolen allanol Llywodraeth Cymru mae bwriad i gadw lorïau ar yr A55 wrth i weinidogion ragweld trafferthion posib ym mhorthladd Caergybi.

Y bwriad ydy rhoi trosolwg strategol o'r risgiau o adael heb ddêl, ond fe rybuddiodd gweinidogion na all unrhyw gamau gan lywodraethau Cymru na'r DU "ddiogelu'r wlad rhag effeithiau llawn y niwed a ddaw yn sgil Brexit heb gytundeb".

Yr wythnos diwethaf fe rybuddiodd Llywodraeth y DU am gynnydd mewn prisiau bwyd a therfysg ar y strydoedd petai Brexit yn digwydd heb gytundeb.

Beth yw'r cynlluniau?

  • Stacio lorïau ar yr A55 a rhoi mwy o lefydd parcio i gerbydau cludwyr nwyddau os na fydd lle ym mhorthladd Caergybi;

  • Rhoi arian ychwanegol i fanciau bwyd;

  • Cadw gofod storio ychwanegol a sicrhau cyflenwad 12-15 wythnos o nwyddau meddygol;

  • Cyflwyno newidiadau posib i fwydlenni ysbytai/ysgolion/cartrefi gofal;

  • Creu storfa o frechlynnau anifeiliaid rhag ofn bod clefyd yn lledaenu.

Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson wedi dweud ei fod eisiau gadel yr UE ar 31 Hydref gyda chytundeb.

Ond mae Aelodau Seneddol eto i gytuno ar ffordd ymlaen yn Nhŷ'r Cyffredin.

'Llywio'r llong i'r creigiau'

Dywedodd y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, eu bod wedi cyhoeddi'r ddogfen "i sicrhau tryloywder".

"Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i gyfyngu ar y niwed a fydd yn cael ei achosi gan Brexit heb gytundeb," meddai.

Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Rhybuddiodd Jeremy Miles y byddai Brexit heb gytundeb yn "niweidiol iawn i Gymru"

"Rydym yn gobeithio na fydd angen i ni gymryd y camau yn y cynllun hwn, ond mae un peth yn gwbl sicr, bydd Brexit heb gytundeb yn niweidiol iawn i Gymru.

"Mae rhagdybiaethau cynllunio Llywodraeth y DU, a ddatgelwyd yr wythnos diwethaf, yn rhagweld prisiau tanwydd uwch, prinder o rai bwydydd, protestiadau ac oedi mewn porthladdoedd, ac y bydd y rheini ar incwm isel yn cael eu heffeithio fwy na neb - nid codi ofn yw diben hyn, ond nodi'r ffeithiau."

Ychwanegodd nad yw gadael heb gytundeb yn "opsiwn hyfyw o gwbl", ac y byddai'n "union fel llywio'r llong yn fwriadol tuag at y creigiau".

"Y ffordd orau o osgoi llongddrylliad yw newid cyfeiriad y llong, ac ni wnawn ymddiheuro am barhau i gyflwyno'r achos dros hyn mor bendant ag y gallwn.

"Ond mae gennym ddyletswydd i baratoi ar gyfer yr hyn a all ddigwydd ac rydym yn parhau i wneud hynny, er y bydd yn amhosibl lliniaru effaith ymadael heb gytundeb yn gyfan gwbl."

Sefyllfa 'drychinebus'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies, bod y cynlluniau ar gyfer y "sefyllfa waethaf sy'n bosib".

Ychwanegodd bod Mr Johnson wedi bod yn glir yn ei fwriad o sicrhau cytundeb, a'i fod yn gobeithio gadael yr UE "yn drefnus".

Dywedodd Delyth Jewell o Blaid Cymru bod y cynlluniau'n "gwneud yn glir pa mor drychinebus fyddai gadael heb gytundeb i gymunedau dros Gymru".

Ychwanegodd ei fod yn waeth gan fod "gymaint o bŵer yn nwylo anhrefn San Steffan".

Dywedodd Mark Reckless o Blaid Brexit y byddai'n cwestiynu Llywodraeth Cymru ar y mater i "sicrhau eu bod yn gwneud y paratoadau cywir ar gyfer gadael yr UE er eu bod yn ceisio atal Brexit ac atal democratiaeth".