Lloyd a Patel yn serennu i Forgannwg yn erbyn Sir Gaerlŷr

  • Cyhoeddwyd
David LloydFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Lloyd 66 i Forgannwg cyn cael ei fowlio allan gan Chris Wright

Mae gobeithion prin Morgannwg am ddyrchafiad i'r adran gyntaf yn parhau yn dilyn diwrnod cyntaf da o fatio yn erbyn Sir Gaerlŷr ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Gyda'r golau gwan yn dod a'r chwarae i ben roedd Morgannwg 300-4 wedi 90.2 pelawd, gyda David Lloyd a Samit Patel yn serennu gydag 66 rhediad yr un.

Nick Selman a Kraigg Brathwaite agorodd y batiad i Forgannwg, gyda Selman yn llwyddo i gael 36 rhediad, a Brathwaite 44.

Ben Mike gafodd ddwy o'r pedair wiced cyn i'r diffyg golau ddod a'r chwarae i ben yng Ngerddi Soffia.