Croesawu swyddi Ineos ger safle Ford ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Mae adain gynhyrchu cerbydau Ineos wedi dewis Pen-y-bont ar Ogwr fel eu safle i gynhyrchu car gyriant pedair olwyn newydd.
Cyhoeddodd y cwmni eu bod yn bwriadu creu 200 o swyddi i greu'r Grenadier, a hyd at 500 yn y tymor hir.
Bydd y gwaith yn digwydd ar stad ddiwydiannol sydd ddim yn bell o safle cwmni ceir Ford.
Mae Ineos wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ac mae Llywodraeth y DU wedi rhoi buddsoddiad hefyd.
Ym mis Mehefin, fe gadarnhaodd Ford y byddan nhw'n cau eu ffatri yno, sy'n cyflogi 1,700 o weithwyr, erbyn Medi 2020.
Dywedodd Ford eu bod yn beio "tanddefnydd" ac anghyfartaledd costau o'i gymharu â ffatrïoedd eraill.
Er nad yw'n glir faint o arian cyhoeddus fydd Ineos yn ei dderbyn, mae'r cwmni'n bwriadu rhoi £600m tuag at y cerbyd newydd, fyddai'n llenwi'r bwlch gafodd ei adael yn dilyn y penderfyniad i roi'r gorau i gynhyrchu'r Land Rover Defender yn 2016.
Bydd rhannau o'r car yn cael eu hadeiladu mewn ffatri arall ym Mhortiwgal, gyda nifer tebyg o swyddi'n cael eu creu yno.
Pan fydd y gwaith cynhyrchu ar ei anterth, y gobaith fydd cynhyrchu 25,000 ceir y flwyddyn ar y safle, sy'n 250,000 troedfedd sgwâr.
Ond bydd y Grenadier SUV yn wynebu cystadleuaeth, gyda Jaguar Land Rover yn cyhoeddi y byddan nhw'n cynhyrchu cerbyd i gymryd lle'r Defender.
Bydd safle newydd Ineos ar ddarn o dir 14 erw, a gafodd ei brynu gan Lywodraeth Cymru am werth y farchnad.
Dywedodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, fod hyn yn arwydd o fwriad y llywodraeth i gefnogi'r ardal yn dilyn y newyddion am gau ffatri Ford.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns hefyd bod buddsoddiad Ineos yn "hwb sy'n cael ei groesawu", ac y byddai Llywodraeth y DU yn parhau i geisio denu cwmnïau fel Ineos i Gymru.
Yn ôl un o gyfarwyddwyr Grŵp Ineos, Tom Crotty, mae cefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy sylweddol na Llywodraeth y DU, ond ychwanegodd bod Mr Cairns wedi bod yn ddefnyddiol.
Ni wnaeth gadarnhau union swm y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ond dywedodd ei fod yn is na'r swm o £13m sydd wedi ei grybwyll.
Wrth groesawu'r swyddi, fe ddywedodd undeb Unite nad oedd hyn ar ei ben ei hun yn ddigon i wneud yn iawn am golli 1,700 o swyddi ym Mhen-y-bont.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2018