Ffatri geir Ford ym Mhen-y-bont i gau erbyn diwedd 2020

  • Cyhoeddwyd
Ford Pen-y-bontFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorwyd y ffatri ym Mhen-y-bont yn 1980

Mae cwmni ceir Ford wedi cadarnhau y byddan nhw'n cau eu ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr erbyn Medi 2020.

Fe ddaw hyn bum mis wedi i'r cwmni gyhoeddi ei fod yn cwtogi'r gweithlu yng Nghymru o 1,000.

Mae'r ffatri ym Mhen-y-bont yn cyflogi 1,700 o weithwyr.

Mae cwmni Ford wedi cadarnhau y byddan nhw'n ad-dalu £11m o arian a gafwyd gan Lywodraeth Cymru fel grantiau i'w cadw yng Nghymru.

Dywedodd Ford ei fod yn beio "tanddefnydd" ac anghyfartaledd costau o gymharu â ffatrïoedd eraill.

Cafodd swyddogion undeb o'r ffatri eu galw i bencadlys y cwmni yn Essex fore Iau er mwyn trafod y cynlluniau.

Yn ôl datganiad Ford mae'r penderfyniad i gau'r safle ym Mhen-y-bont yn rhan o strategaeth y cwmni i greu busnes mwy effeithlon yn Ewrop.

'Penderfyniad anodd'

Dywedodd Stuart Rowley, llywydd Ford Europe bod "creu busnes cryf a chynaliadwy yn ein gorfodi i wneud rhai penderfyniadau anodd".

"Rydyn ni wedi ymrwymo i'r DU, ond roedd newidiadau yng ngalw ein cwsmeriaid ac anghyfartaledd costau... yn golygu y byddai safle Pen-y-bont yn anghynaladwy yn economaidd dros y blynyddoedd i ddod."

Mae'r datganiad yn nodi tanddefnyddio'r safle a lleihad yn y galw rhyngwladol am y peiriannau sy'n cael eu cynhyrchu yn y ffatri ymysg y rhesymau tu ôl i'r penderfyniad.

Mae'r safle hefyd dan anfantais costau i gymharu â ffatrïoedd eraill sy'n cynhyrchu'r un math o beiriannau.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ford wedi dweud y byddan nhw'n cynnig symud rhai o'r gweithwyr i safleoedd eraill yn y DU

Ar hyn o bryd mae'r ffatri yn cynhyrchu peiriannau ar gyfer ceir Ford a Jaguar.

Bydd y gwaith o gynhyrchu peiriannau ar gyfer ceir Ford yn dod i ben ym mis Chwefror 2020, ac mae disgwyl i'r safle gau unwaith y daw'r llinell gynhyrchu ar gyfer Jaguar i ben ym mis Medi 2020.

Mae cynllun Ford yn cynnwys helpu unigolion i ddod o hyd i swyddi newydd, yn ogystal â chynnig symud rhai o weithwyr Pen-y-bont i safleoedd eraill y cwmni yn y DU.

Ychwanegodd Mr Rowley: "Fel cyflogwr mawr yn y DU ers dros ganrif, rydyn ni'n deall y bydd cau'r safle ym Mhen-y-bont yn anodd iawn i nifer o'n gweithwyr.

"Rydyn ni'n cydnabod yr effaith bydd hyn yn ei gael ar deuluoedd a chymunedau, ac fel rhan o'n rôl fel cyflogwr cyfrifol, rydyn ni'n gweithio ar gynllun fydd yn helpu lleihau'r effaith yno."

'Newyddion ofnadwy'

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru yn "gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r rhai sydd wedi eu heffeithio" ac yn cyd-weithio â phartneriaid i drafod opsiynau posib ar gyfer y dyfodol.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, bod y llywodraeth yn bwriadu ffurfio grŵp fydd yn canolbwyntio'n benodol ar ddod o hyd i ddatrysiad hir dymor ar gyfer y safle a'r gweithlu.

"Yn amlwg mae hyn yn newyddion ofnadwy i'r gweithlu a nifer o'r cyflenwyr a'r cymunedau lleol sydd mor ddibynnol arno," meddai.

Mae gweithwyr y ffatri yn "haeddu gwell" yn ôl AC Pen-y-bont a'r cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r safle gau unwaith y daw'r llinell gynhyrchu ar gyfer Jaguar i ben ym mis Medi 2020

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds bod hyn yn "newyddion ofnadwy i'r gweithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned yn ehangach".

"Mae'n rhaid i lywodraethau Cymru a'r DU ymateb ar frys i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi gweithwyr... ond nid oes modd osgoi'r ffaith fod heddiw yn ddiwrnod tywyll i Ben-y-bont a'r diwydiant ceir yng Nghymru."

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, mae'r penderfyniad i gau'r safle'n un o'r esiamplau gwaethaf o "fandaliaeth ddiwydiannol" yn y DU ers degawdau.

Ychwanegodd y byddai cau'r safle'n cael effaith andwyol ar y dref a'r economi ehangach ac mae o wedi gofyn am gynnal trafodaethau ar frys gyda'r cwmni.

Mae'r AC Ceidwadol, Suzy Davies wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod "cefnogaeth addas yn cael ei gynnig i weithwyr y safle".

"Rydw i'n erfyn ar y llywodraeth i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i'r gweithlu fel eu bod nhw'n gallu dod o hyd i swyddi newydd mor fuan â phosib."

'Ergyd fwyaf ers cau'r pyllau glo'

Mae uwch aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi disgrifio'r penderfyniad i gau ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel "yr ergyd unigol fwyaf i'n heconomi ers cau'r pyllau glo".

Ond mae arweinydd y cyngor, Huw David, wedi addo y bydd yr awdurdod yn llwyr gefnogi gweithwyr y ffatri a bod camau eisoes yn cael eu cymryd.

Dywedodd Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol Ffederasiwn Busnesau bach Cymru: "Mae deinamigrwydd gweithwyr y ffatri a'r gadwyn gyflenwi yn gaffaeliad mawr i Gymru ac mae'n bwysig nad ydym yn ei golli.

"Mae nawr yn amser am arweinyddiaeth gadarn ac rydym am weld partneriaeth wirioneddol ac amlwg a phenderfyniad ar y cyd rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU i sicrhau nad yw asedau'n cael eu colli."