Naw ymddiriedolwr yn goroesi pleidlais cymdeithas cobiau
- Cyhoeddwyd
Mae Is-Gadeirydd Bwrdd Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig wedi disgrifio penderfyniad yr aelodau i beidio disodli naw o'r ymddiriedolwyr fel "rhyddhad mawr".
Daw'r bleidlais wedi ffrae chwerw o fewn y gymdeithas, sydd â dros 5,000 o aelodau ar draws y byd.
Fe ddaeth dros 400 o bobl i gyfarfod arbennig yn Llanelwedd i drafod cynigion gan aelodau i gael gwared ar naw o'r 14 ymddiriedolwr.
Roedd hynny yn sgil anniddigrwydd ynglŷn â'r ffordd roedd y gymdeithas yn cael ei rhedeg.
Roedd rhai yn dadlau fod angen newidiadau gan fod y gymdeithas wedi gwneud colled ariannol o £120,000 a bod yr aelodaeth yn gostwng.
Fe gafodd pob un o'r cynigion eu gwrthod gan fwyafrif yr aelodau, gyda'r naw yn cael cadw eu lle ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Yn ei gyfweliad cyntaf yn dilyn y ffrae, fe ddywedodd yr is-gadeirydd, Wyn Jones, wrth BBC Cymru bod yr anghydfod wedi gwneud niwed i enw da'r gymdeithas.
"Y gymdeithas sydd yn dioddef.
"Pa bynnag ffordd roedd y bleidlais yn mynd, y gymdeithas sydd wedi dioddef yn enbyd, o amgylch y byd.
"Mae hyn wedi bod ar y cyfryngau. Mae'n mynd rownd y byd mewn dau funud, ac mae'n dorcalonnus beth maen nhw wedi gwneud i fod yn onest.
"Mae'n biti mawr bod yna rwyg wedi dŵad ac mae o dal yna. Dwi jyst yn gobeithio y byddwn ni yn gallu rhoi'r holl egni sydd wedi bod yn cael ei ddangos yn y cyfarfodydd yma tu ôl i'r gymdeithas."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Er hyn, mae Mr Jones yn derbyn bod angen gwelliannau o fewn y gymdeithas.
"Mae'n rhaid cael gwelliannau ymhob peth. Hwyrach fod yna bethau 'da ni wedi gwneud sydd ddim yn berffaith gywir, a bydd rhaid i ni ailedrych arnyn nhw.
"Dyna un peth sydd wedi bod yn ddiffygiol yn y gorffennol ydy'r difyg communication rhyngddo ni a'r aelodau."
Fe fydd ysgrifennydd newydd Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig, Meirion Davies, yn dechrau ar ei waith yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae'r gymdeithas, gafodd ei ffurfio yn 1901, yn hyrwyddo bridio a chynnal safonau merlod a chobiau Cymreig ac yn gyfrifol am gofrestru, trwyddedu, trosglwyddo perchnogaeth ac allforion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2019
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2018