Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-0 Middlesbrough
- Cyhoeddwyd
Ennill oedd hanes Caerdydd yn erbyn Middlesbrough ddydd Sadwrn, gydag unig gôl y gêm yn dod yn gynnar.
Roedd yr Adar Gleision ar y blaen wedi dim ond dau funud diolch i gôl i'w rwyd ei hun gan ymosodwr Middlesbrough, Ashley Fletcher.
Fe beniodd Fletcher heibio i Darren Randolph yn y gôl o gic cornel i Gaerdydd.
Wedi'r gôl fe geisiodd Middlebrough daro'n ôl. Gyda digon o'r meddiant, ni lwyddodd nhw greu unrhyw gyfleoedd i fygwth Alex Smithies yn y gôl i Gaerdydd.
Daeth hanner cyntaf di fflach i ben gyda Chaerdydd ar y blaen.
Yn gynnar yn yr ail hanner fe ddylai Caerdydd fod wedi dyblu'r fantais ond roedd Omar Bogle yn wastraffus yn dilyn pas gan Joe Ralls.
Daeth cyfle cyntaf Middlesbrough at gôl pan laniodd cig gornel wrth droed George Saville, ond fe darodd ei ergyd ymhell dros y trawst.
Fe darodd Bogle y bar o groesiad Junior Hoilett cyn i Callum Paterson fynd yn agos at sgorio, ond roedd ei ergyd dros y trawst.
Llwyddodd Caerdydd i ddal ymlaen a sicrhau buddugoliaeth haeddiannol, wrth i'w record o beidio â cholli gartref yn y gynghrair y tymor hwn barhau.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod tîm Neil Warnock yn codi i safle 13 yn y tabl.