Morgannwg yn dechrau'n siomedig
- Cyhoeddwyd
Mewn gêm y mae'n rhaid i Forgannwg ei hennill os am unrhyw obaith o ddyrchafiad i'r adran gyntaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd, fe fyddan nhw'n siomedig ar ddiwedd y diwrnod cyntaf yn Chester-le-Street.
Chris Cooke alwodd yn gywir i'r ymwelwyr a dewis batio yn erbyn Durham, ac fe gipiodd Michael Hogan wiced yn y drydedd belawd.
Ond am weddill y dydd, fe lwyddodd y tîm cartref i adeiladu sawl partneriaeth gyda bowlwyr Morgannwg - heblaw am Hogan - yn methu gwneud eu marc.
Erbyn i'r tywydd ddod â chwarae'r diwrnod cyntaf i ben yn gynnar, roedd Durham wedi cyrraedd cyfanswm o 197 am chwe wiced, gyda Hogan yn cipio pedair o'r chwech.
Bydd yr hyfforddwr Matthew Maynard yn gweld y dydd fel cyfle wedi'i golli gan fod Sir Gaerloyw - sydd un safle yn uwch na Morgannwg yn y tabl - wedi cael diwrnod trychinebus yn eu gêm nhw.
Fe fydd angen i Forgannwg gipio wicedi cynnar ddydd Mercher, ac yna ymdrech arwrol gyda'r bat i roi gobaith am y fuddugoliaeth angenrheidiol.