Tudur Owen: Pan mae'r plant wedi gadael y nyth
- Cyhoeddwyd
Mae sawl cwpl yn wynebu nyth wag am y tro cyntaf wrth i'w plant adael cartref i fynd i goleg. Un o'r cyplau hynny ydy Tudur Owen a'i wraig, Sharon. Fe ofynnon ni i'r comedïwr sut mae'n teimlo am y peth?
'Mae'r tŷ mor ddistaw'
"Mae gen i ddau o blant sy'n oedolion bellach. Mae'r bachgen wedi hen adael coleg erbyn rŵan a dechrau gweithio ac mae'r ferch wedi mynd i Brifysgol Caerdydd y tymor yma.
"Wythnos sydd wedi bod ers iddi fynd ac mae'r dyddiau cyntaf wedi bod yn od. Mae'n anodd i'w ddisgrifio.
"Dwi'n gweithio lot o adra, a dwi'n treulio lot o amser yn y tŷ yn sgwennu. Y petha bach mae rhywun yn sylwi arnyn nhw: ddiwedd p'nawn, ar ôl ysgol, oeddwn i'n arfer clywed sŵn y drws ffrynt yn mynd, sŵn y ferch yn ymarfer piano.
"Mae mor ddistaw yn y tŷ rŵan. Mae'n deimlad od a dwi'n trio peidio meddwl gormod am y peth i ddweud y gwir.
"Roeddan ni'n gwybod bod hyn yn mynd i ddigwydd ac rydyn ni'n trio bod yn bositif felly rydw i a'r wraig wedi bod yn trafod, a meddwl bod gynnon ni fwy o amser, wedi stopio bod yn dacsis, i wneud petha' fel teithio a gwneud amser i fwynhau.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n her i gyplau, wedi treulio 20 mlynedd a mwy jyst yn rhoi yr egni i gyd i mewn i'r plant 'ma, a maen nhw wedi mynd. Mae'n rhyw deimlad o fod yn redundant bron. Mae'n rhaid bod yn ofalus iawn.
"Mae gan fy ngwraig yrfa brysur iawn, felly wrth lwc mae'r ddau ohonon ni yn brysur, ond pan rydyn ni adra, dyna pryd mae rhywun yn sylwi ar y gwahaniaeth.
"Mae'n ddyddiau cynnar a dwi'n gobeithio mewn blwyddyn y bydda i'n dweud 'Mae hyn yn ffantastig, dan ni wedi cael ei bywydau nôl'. Efallai! Gawn ni weld.
"Oedd o'n sioc i'r system i weld y cyntaf-anedig yn mynd ond mi oedd y tŷ yn brysur yr un fath, achos mi oedd y ferch dal adra.
'Mynd am benwythnos i ffwrdd'
"Does dim lot fedrwch chi ei wneud i osgoi'r teimlad o boeni amdanyn nhw, achos mae'n naturiol.
"Ond mae eisiau i chi feddwl am beth ydych chi eisiau ei wneud efo'ch bywyd, y pethau roeddech chi'n methu eu gwneud cyn cael y plant, efallai mynd allan i'r pyb yng nghanol yr wythnos am beint, neu am bryd o fwyd. Doeddech chi methu gwneud hynny o'r blaen achos roedd yn rhaid cael y plant yn barod i'r ysgol. Efallai mynd am benwythnosau i ffwrdd ar fyr-rybudd, neu fynd am dro.
"Mae eisiau planio a paratoi ac edrych ar yr ochr bositif a theimlo'n freintiedig eich bod chi'n gallu cefnogi a chynnal eich plant i fynd i'r brifysgol.
"Achos ddylai o ddim fod yn broblem drist. 'Dan ni mor lwcus bod ein plant ni wedi llwyddo, a'n bod ni mor freintiedig ein bod ni'n medru eu hanfon nhw i'r brifysgol.
'Wedi methu allan'
"Mae gen i deimlad o genfigen mwya' ofnadwy, dwi'n eiddigeddus iawn o'r ddau ohonyn nhw. Es i ddim i brifysgol felly 'sgen i ddim profiad ohono. Ond o siarad â nhw, a chlywed am eu profiadau nhw, dwi'n amau mod i wedi methu allan. Dwi'n genfigennus iawn! Mae Caerdydd yn lle mor gyffrous i Gymro neu Gymraes i fod.
"Dwi'n mynd yno efo ngwaith lot, a mae hi'n gwybod mod i yma, ond dwi'n ei adael o iddi hi os ydy hi am gysylltu. Dwi ddim eisiau iddi feddwl mod i'n mynd lawr i gadw llygad arni.
"Dwi am iddi wybod bod y rhyddid ganddi hi a mod i ddim yn busnesu yn ei bywyd hi. Dwi'n meddwl bod hynny yn bwysig. Oedd pobl ddim yn gallu ffonio adra, dim ond efallai unwaith yr wythnos, ond mae'n demtasiwn dyddiau yma i decstio, Whatsappio a mynd ar Facetime, ond mae modd gwneud gormod o hynny, achos rhan o'r profiad ydy iddyn nhw gael rhyddid i arbrofi, a dod i 'nabod eu hunain, heb Mam a Dad yn cysylltu bob munud.
"Maen nhw'n dda iawn am gysylltu a gadael i ni wybod eu bod nhw'n iawn, ond mae'n anodd weithiau i beidio rhoi mewn i'r demtasiwn i gysylltu. Mae na beryg eich bod chi'n cael gwybod gormod hefyd. 'Dach chi ddim eisiau gwybod pob dim sy'n mynd ymlaen yn y brifysgol!"
Hefyd o ddiddordeb: