Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-1 Reading
- Cyhoeddwyd

Mae Borja Bastón wedi rhwydo chwech o weithiau ers dechrau'r tymor
Collodd Abertawe gyfle i ddychwelyd i frig y Bencampwriaeth wedi i Reading sicrhau gêm gyfartal yn y funud olaf yn Stadiwm Liberty.
Roedd hynny er i'r Elyrch fod ar y blaen wedi tair munud yn unig, diolch i beniad Borja Bastón o groesiad André Ayew o ganol y cwrt cosbi i gornel y rhwyd.
Ond fe dalodd dîm Steve Cooper bris am fethu ag ymestyn y fantais wedi i Andy Yiadom unioni'r sgôr reit ar ddiwedd y gêm.
18 o bwyntiau sydd gan Abertawe - un yn llai na West Brom ar y brig.