Rhybuddion tywydd am bedwar diwrnod yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
glaw

Mae llifogydd mewn cartrefi a busnesau yn bosibilrwydd wrth i'r cyntaf o ddau rybudd tywydd ddod i rym yn hwyr brynhawn Sadwrn.

Daeth y rhybudd cyntaf i rym am 18:00 ddydd Sadwrn wrth i'r Swyddfa Dywydd ddarogan glaw trwm dros bob rhan o Gymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi rhybuddio pobl sy'n byw ger yr arfordir i fod yn wyliadwrus, gyda chyfuniad o lanw uchel a stormydd i ddod dros y penwythnos hyd at ddydd Mawrth.

Dywedodd y corff eu bod yn edrych ar yr arfordir i gyd, ond yn benodol ar ardaloedd Casnewydd a Chas-gwent.

Maen nhw'n disgwyl trafferthion i deithwyr, ac yn rhybuddio hefyd y gallai cyflenwadau trydan gael eu colli mewn mannau.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd cyntaf yn berthnasol o bob un o siroedd Cymru

Fe allai rhai mannau weld hyd at 30mm (un modfedd) o law nos Sadwrn.

Daw'r rhybudd yna i ben am 17:00 ddydd Sul, ond mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi un arall fydd yn dod i rym ddydd Llun.

Dim ond siroedd y de - o orllewin Sir Gaerfyrddin draw i Gasnewydd - dy'n debyg o ddiodde'r tro hwn.

Rhagweld trafferthion

Bydd yr ail rhybudd mewn grym rhwng 15:00 ddydd Llun a 15:00 ddydd Mawrth, 1 Hydref.

Rhybuddion melyn yw'r ddau, ond mae'r Swyddfa Dywydd yn credu y gallai cartrefi a busnesau fod dan fygythiad o lifogydd.

Maen nhw hefyd yn credu y bydd teithio yn anodd, gan rybuddio gyrwyr i gymryd gofal oherwydd dŵr ar y ffyrdd.

Fe allai fod amharu ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd.