Cwest Kos: 'Hawdd i blentyn agor drws'

  • Cyhoeddwyd
TheoFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Holmes bod Theo wedi llwyddo i adael ei ystafell yn y gwesty am nad oedd modd ei gloi o'r tu mewn

Mae gwrandawiad cyn cwest i farwolaeth bachgen bach oedd ar wyliau gyda'i deulu yng Ngroeg wedi clywed fod dolen drws yn ei ystafell yn gallu cael ei agor yn rhwydd gan blentyn o'r tu fewn.

Bu farw Theo Treharne-Jones, pump oed o Ferthyr Tudful yn yr ysbyty ar 15 Mehefin ar ôl cael ei ganfod mewn pwll nofio ym mhentref gwyliau Atlantica ar ynys Kos.

Roedd ar ei wyliau gyda'i rieni, Richard a Nina, ei frodyr a chwiorydd a theulu estynedig.

Dywedodd Nina Treharne fod y teulu wedi aros yn y gwesty o'r blaen, ond mewn ystafelloedd gwahanol oedd â chadwyni ar y drysau i atal plant rhag gadael.

'Cyfres o wallau'

"Roedd y bloc yma'n fwy safonol na'r gweddill. Roedd hanner y gwesty gyda chadwyni ar y drysau, ond nid yn y rhan yma.

"Roedd y bloc yma'n fwy fel bloc ar gyfer oedolion. Fe allwch chi eu troi nhw i atal neb rhag dod mewn o'r tu allan, ond roedd modd mynd allan drwy eu cyffwrdd gyda'ch bys."

Ffynhonnell y llun, Adam Holmes
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Adam Holmes, gyda'i gariad Mel yn y llun, berfformio CPR ar Theo

Dywedodd Mona Bayoumi sy'n cynrychioli'r cwmni gwyliau TUI-UK: "Dwi ar ddeall fod cadwyni yn cael eu dosbarthu'n raddol yn y gwesty, ac mae'r ddolen ar y drysau'r un fath ag unrhyw ddrws mewn gwestai ar draws y byd."

Ychwanegodd mai mater iechyd a diogelwch ydoedd ac fe awgrymodd i'r crwner y dylai arbenigwr ar ddolenni drysau gael ei alw.

Yn ôl y crwner bydd y cwest yn canolbwyntio ar "lefel y gofal i gadw plant ifanc fel Theo yn ddiogel".

Cadarnhaodd y crwner hefyd y byddai'n canolbwyntio ar:

  • Mynediad i'r pwll o'r ystafelloedd gwely;

  • Y llwybr rhwng yr ystafelloedd a'r pwll;

  • Y drysau ar y llwybr hwnnw a sut fath o ddolenni a chlo oedd ar y drysau i rwystro plant rhag mynd drwy'r drysau;

  • Pa waharddiadau oedd ger y pwll;

  • Tystiolaeth fideo CCTV;

  • A oedd modd gorchuddio'r pwll?

Wedi'r digwyddiad dywedodd Adam Holmes, 34 oed o Essex oedd ar wyliau yno gyda'i bartner wrth y BBC bod "cyfres o wallau" wedi arwain at farwolaeth Theo.

Fe wnaeth Mr Homes sy'n rhedeg busnes hyfforddiant cymorth cyntaf feirniadu prosesau argyfwng y pentref gwyliau.

Dywedodd ei fod wedi rhuthro at y pwll ar ôl clywed bod pobl rhoi CPR i fachgen yno, a'i fod wedi helpu yn yr ymdrech i achub y bachgen.

Bydd gwrandawiad cyn cwest arall yn digwydd ym mis Tachwedd.