Geraint Thomas a'i wraig, Sara yn cyhoeddi genedigaeth eu mab

  • Cyhoeddwyd
Geraint a Sara ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint a Sara Thomas ar noson wobrwyo Personoliaeth Chwaraeon y Flywddyn y llynedd

Mae'r seiclwr Geraint Thomas a'i wraig Sara wedi cyhoeddi genedigaeth eu mab cyntaf.

Fe gyhoeddodd Thomas - enillydd y Tour de France yn 2018 - y newydd ar ei dudalen Instagram ddydd Gwener.

Cafodd y bachgen ei eni yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dyw'r cwpl heb gyhoeddi enw'r mab eto.

Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan geraintthomas86

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan geraintthomas86

Fe briododd Geraint, 33, a Sara, 28, bedair blynedd yn ôl yn St Tewdrics House ger Cas-gwent - nhw oedd berchen yr adeilad.

Mae Sara, sy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, bellach yn rheoli'r lleoliad gyda chymorth ei rhieni.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas yn dathlu gyda Sara ar ôl ennill y Tour de France yn 2018