Ailgysegru gardd goffa Aberfan wedi adnewyddiad £500,000

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth Aberfan
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith adnewyddu wedi bod yn digwydd ar y safle dros y chwe mis diwethaf ar gost o £500,000

Daeth cannoedd o bobl i Aberfan ddydd Gwener ar gyfer gwasanaeth i ailgysegru'r ardd goffa yn y pentref.

Mae gwaith adnewyddu wedi bod yn digwydd ar y safle dros y chwe mis diwethaf ar gost o £500,000.

Mae'r ardd ar safle Ysgol Gynradd Pantglas - yr ysgol gafodd ei dinistrio yn nhrychineb 1966 pan gafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd.

Yn rhan o'r gwasanaeth fore Gwener roedd Esgob Llandaf June Osborne, Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford, gwleidyddion lleol, cynrychiolaeth o'r gwasanaethau brys ac athrawon a phlant o ysgolion yr ardal.

'Yn nwylo'r gymuned'

Cafodd yr ardd ei hariannu yn wreiddiol gan gronfa coffa Aberfan - casglwyd £17.5m wedi 90,000 o roddion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae placiau newydd wedi'u gosod yn yr ardd

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr ailgysegriad ei arwain gan Esgob Llandaf, June Osborne

Cafodd y gwaith atgyweirio, sy'n cynnwys codi waliau newydd, ailosod llwybrau a phlannu coed a phlanhigion newydd, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod y digwyddiad pwysleisiodd Mr Drakeford bwysigrwydd cofio'r hyn ddigwyddodd dros hanner can mlynedd yn ôl.

Dywedodd cadeirydd elusen goffa Aberfan, David Davies, bod yr "ardd yn ôl yn nwylo'r gymuned - yn lle tawel i bobl oedi a myfyrio am yr hyn ddigwyddodd yn y pentref yn 1966".