Dadorchuddio carreg goffa i Niclas y Glais yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aelodau o deulu Niclas y Glais yn dadorchuddio'r garreg goffa

Mae carreg goffa i'r bardd, yr heddychwr a'r comiwnydd Niclas y Glais wedi cael ei ddadorchuddio mewn seremoni ar lethrau Crugiau Dwy ar y Preselau.

Mae pwyllgor o wirfoddolwyr wedi bod yn gweithio ers blwyddyn i godi arian ar gyfer y gofeb, sydd ar yr union leoliad ble gwasgarwyd ei lwch ym 1971 ar ôl ei farwolaeth yn 91 oed, a dafliad carreg o'i hen gartref teuluol, y Llety.

Yng nghanol y glaw trwm brynhawn Sadwrn, fe ddadorchuddiwyd y garreg gan Shân Angharad, gor-wyres Niclas, ynghyd ag aelodau eraill o'r teulu.

Yn ôl Ysgrifennydd y Pwyllgor, Hefin Wyn, roedd hi'n addas iawn bod y tywydd yn arw.

"Dyma'r tywydd rydym ni wedi ei drefnu mewn gwirionedd, oherwydd 140 o flynyddoedd pan gafodd Niclas ei eni roedd hi'n fellt a tharanau," meddai.

"Oherwydd hynny roedd wastad yn galw ei hun yn fab y Trwste, ac mae'n debyg hefyd pan gafodd ei lwch ei ledaenu yng Nghrugiau Dwy, roedd hi'n dywydd garw pryd 'ny hefyd. Priodol iawn!"

Roedd TE Nicholas yn gymeriad dadleuol tu hwnt yn sgil ei heddychiaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe'i carcharwyd ar gam gyda'i fab yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn ôl Hefin Wyn, mae'n llawn haeddu cofeb ar y Preselau.

"Yn ystod ei fywyd, roedd yn dipyn o ddraenen yn ystlys yr awdurdodau.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth torf allan ar gyfer y seremoni er gwaethaf y tywydd garw

"Doedd e ddim yn gymeradwy gan bawb, ond ry'n ni yn ardal y Preseli yn anwylo Niclas y Glais, oherwydd bod e'n ddyn o syniadau cryf ac roedd yn gweithredu'r egwyddorion oedd gydag e tan y diwedd."

Yn ôl Glen George, cyd-awdur casgliad newydd o waith Niclas, a gor-nai i'r bardd, mae'n bwysig bod y garreg goffa wedi ei chodi.

"Dwi'n falch i weld bod e wedi digwydd ac mai cymdeithas yr ardal sydd wedi sbarduno'r ymdrech," meddai.