Tommie Collins a'i 'ganfed cap'
- Cyhoeddwyd
Mae Tommie Collins o Borthmadog wedi bod yn dilyn tîm pêl-droed Cymru oddi cartref ers bron i 35 mlynedd, a'r wythnos hon fe fydd yn ennill ei '100fed cap' fel cefnogwr wrth iddo deithio i Slofacia i wylio'r gêm.
Mae'n sôn wrth Cymru Fyw am rai o'i brofiadau mwyaf cofiadwy dros y blynyddoedd, o'r wlad orau y mae wedi bod iddi, perfformiad gwaethaf Cymru, y peint rhataf a'r atgofion melys o Euro 2016.
Glasgow yn '85 oedd y trip cyntaf i mi wylio Cymru oddi cartref. Y peth mwya' dwi'n cofio am y dydd oedd bod pybs ddim yn gorad yng Nghymru ar yr adeg, ond mi oeddan nhw yn yr Alban, felly naethon ni neud llanast o'n hunain yn llwyr yn yfed drwy'r dydd!
Y trip cynta' dramor oedd i Ddenmarc, roedd hi'n gyfnod y storm fawr ac fe wnaeth hi gymryd bron i ddiwrnod i ni ddod adra'. Roeddan nhw'n goro rhoi'r angor i lawr tu allan i Harwich achos bod y storm mor ddrwg, ac roedd pawb yn sâl fel cŵn ar y cwch. Roedd 'na rai dal yn yfed ond nai'm eu henwi nhw!
Roedd Rwmania [yn 1992] yn brofiad - roeddan ni'n cael peint am ryw 10 ceiniog. Doedd 'na ddim ffonau symudol ar yr adeg. Naethon ni'm byta dim ond Mars bars am dri, bedwar diwrnod, naethon ni'm ffonio adra', doedd y wraig na mam ddim yn gwbod lle oeddan ni.
Trip bythgofiadwy
Mae'r tripiau yn fwy na jyst mynd i'r gêm, mae o'n gyfle i fynd i wlad wahanol. Un wlad o'n i wastad isio mynd iddi, oedd Portiwgal ac aethon ni yna yn 2000. Roeddan nhw'n dîm gwych a naethon nhw ein chwalu ni. Roedd Dai Davies [cyn-golwr Cymru] efo ni ar ôl y gêm ac fe naethon ni alw fo'n 'Dai the Drop' - doedd o ddim yn hapus!
Ond roedd jyst cael mynd i dair dinas, a gwlad grêt, a'r cefnogwyr yn grêt efo ni - nes i ddisgyn mewn cariad efo Portiwgal a Lisbon, roedd o'n drip bythgofiadwy.
Dwi 'di bod i lot o lefydd yn Ewrop ond mae 'na ryw dair neu bedair o wledydd 'dan ni heb chwarae eto, felly bysa mynd i rywle fel Kazakhstan yn antur. Ond y freuddwyd fysa cael mynd i'r Ariannin i weld Cymru - yr angerdd sydd ganddyn nhw yn fynna, dwi'n meddwl bysa fo'n drip ffantastig i'r cefnogwyr.
Y gorau a'r gwaethaf
O ran y chwaraewr gorau dwi 'di eu gweld i Gymru, dwi'n meddwl yn bersonol bod [Gareth] Bale wedi bod yn well na [Ryan] Giggs. Ond roedd rhaid i chdi ddeud bod Craig Bellamy'n dipyn o chwaraewr i ni 'fyd - yn ei ddydd - roedd o bosib ddim yn bell o'r ddau yna.
Un arall o'n i'n licio oedd Simon Davies. Aethon ni i Croatia am gêm gyfeillgar [yn 2002] a gaeth o gôl wych, rhedeg o'r hanner ei hun, a sgorio. Roedd o'n rhywbeth gwahanol i Gymru hyd yn oed sgorio ar yr adeg yna, achos 'dan ni 'di bod yn gwylio sbwriel dros y blynyddoedd hefyd!
Y chwaraewr gwaetha' i fi weld oedd Colin Pascoe. Dim ots beth 'sa fo'n 'neud, doedd o methu 'neud dim byd yn iawn i Gymru. Fel cefnogwr, ti'm yn licio lladd ar dy chwaraewyr chdi, achos maen nhw'n chwarae i Gymru, ond pan oedd o'n dod i'r cae o'n i jyst isio mynd allan i'r pyb am beint.
Un o'r perfformiadau gwaethaf oedd Nuremberg [yn 1991] pan gollon ni 4-1 i'r Almaen, roedd genna ni dîm da ar y pryd, ar fin mynd drwodd, a gawson ni hunllef. Ar ben hynna, colli 7-1 yn Eindhoven [i'r Iseldiroedd yn 1996], Vinnie Jones a ballu - doedd hwnna'm yn gyfnod da.
Fel mae'n digwydd, y gorau dwi 'di gweld nhw'n chwarae ydy'r un lle dwi'n mynd nesa', sef Slofacia. Roedd Bellamy ar dân y diwrnod yna [yn 2007, pan enillodd Cymru 5-2]. Doedd Slofacia ddim yn dîm sâl, ond naethon ni roi chwip dîn go iawn iddyn nhw, roedd hi'n berfformiad a hanner.
Dagrau yn Bordeaux
Yr un peth mwya' o'n i isio oedd bod mewn rowndiau terfynol, a wnai fyth anghofio'r foment 'na yn Bordeaux yn 2016 a'r anthem genedlaethol yng ngêm gyntaf yr Euros. Jyst bod yn fynna, hwnna oedd o i fi.
Dio'm ots be' arall sy'n digwydd yn fy mywyd i, ro'n i yn Bordeaux, gweld fy ngwlad, canu'r anthem, a nai ddeud gwir, roedd gen i ddagrau yn fy llygadau.
Bordeaux ydy fy moment orau i'n gwylio Cymru.
Cwrdd â ffrindiau
Dim ond rhyw lond llaw o gefnogwyr sydd dros y 100 'cap' dwi'n meddwl, felly dwi'n teimlo'n reit falch mod i 'di cyrraedd, doedd o ddim yn fwriadol pan 'nes i ddechrau. Ond dwi'n bwriadu cymryd dipyn bach o gam yn ôl ar ôl hwn - mae fy meibion i'n mynd rŵan, felly mae'n gyfle i'r bobl ifanc gymryd drosodd!
Dwi 'di 'neud ffrindiau am fywyd mewn ffordd efo'r teithio, 'dach chi'n mynd i'w priodasau nhw, partis a phethau fel 'na. Mae 'na bobl dwi'n 'nabod ers 30, 40 mlynedd yn dal i fynd, ac yn amlwg roedd Ffrainc i fi ac i'r rheiny yn rywbeth doeddan ni'm yn meddwl 'san ni fyth yn ei gael, a rhywbeth 'dan ni'n gwerthfawrogi.
Ti'n cwrdd â ffrindiau newydd, mynd i wledydd newydd - dio'm ots os ti'n 'neud yn dda neu'n 'neud yn wael, dy wlad di ydy hi, felly ti dal yn mynd am bod chdi 'di mwynhau.