Cyngor Sir Gâr yn lansio strategaeth adfywio gwledig

  • Cyhoeddwyd
Sancler

Cryfhau cymunedau, creu swyddi a chyfleoedd busnes, a diogelu'r Gymraeg - dyna uchelgais Cyngor Sir Gâr wrth lansio eu strategaeth adfywio gwledig.

Mae dros 60% o boblogaeth y sir yn byw mewn ardaloedd gwledig, a bwrdd gweithredol y cyngor oedd y cyntaf i greu portffolio penodol i gynrychioli materion gwledig.

Cafodd y strategaeth ei chyhoeddi fore Mawrth yng Nghastell Newydd Emlyn.

Mae'r ddogfen Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen yn canolbwyntio ar nifer o themâu:

  • Gwariant yn yr economi leol;

  • Tai a Chynllunio;

  • Bywyd Cymunedol;

  • Seilwaith Band Eang;

  • Trafnidiaeth, Y Gymraeg ac Amaethyddiaeth.

Dywedodd y cynghorydd Cefin Campbell, aelod o'r bwrdd gweithredol dros faterion gwledig, fod pwyslais ar greu swyddi a chyfleoedd busnes er mwyn i bobl ifanc aros ac ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl y cyngor, mae tua 1,000 o bobl ifanc yn gadael y sir bob blwyddyn ar hyn o bryd, a'r gobaith yw eu denu'n ôl, gyda chymhellion i'w cynorthwyo i sefydlu busnesau i gynnal eu hunain a'r economi leol.

Angharad Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dr Angharad Wyn ddechrau ei gyrfa fel meddyg teulu yng Nghaerdydd

Mae'r Dr Angharad Wyn yn feddyg teulu o dan hyfforddiant, ac wedi dychwelyd i Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar gyda'i theulu ifanc, ar ôl iddi hyfforddi a dechrau ei gyrfa yng Nghaerdydd.

"Fel meddyg teulu dan hyfforddiant, fues i'n lwcus iawn. O'dd y broses mor syml, mor rhwydd a phawb mor groesawgar, yn barod i helpu a galluogi hynny i ddigwydd. "

Mae'r ffaith ei bod hi'n medru'r Gymraeg yn hanfodol bwysig, yn ôl Dr Wyn: "Yn barod, trwy weithio yn Sanclêr nawr, mae gymaint o bobl yn dod i mewn sy'n teimlo rhyddhad o allu siarad Cymraeg, a dwi'n teimlo'n falch iawn i fod yn un o'r rheiny sy'n gallu cyfrannu a gwneud y broses honno'n haws iddyn nhw "

'Cyfleoedd gwaith'

Mae Hannah Richards yn astudio BA Perfformio yng Nghaerdydd ac yn un o'r bobl ifainc sydd wedi gadael Sir Gâr am gyfnod. Dyw hi ddim yn hyderus y byddai gwaith iddi yn ei hardal enedigol.

"Yn anffodus, dwi ddim yn meddwl fod yna ddigon o gyfleoedd gwaith yn Sir Gâr, yn enwedig os chi'n gwneud perfformio neu drama....

"Ma' gan Sir Gâr Yr Egin ond dyw pawb sydd 'efo diddordeb mewn drama a pherfformio, 'den ni i gyd fel pobl ifanc ddim yn mynd i allu gweithio yn Yr Egin - dyw hynny ddim yn mynd i fod yn bosib."

Hannah Richards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Richards yn astudio BA Perfformio yng Nghaerdydd

Mae datblygu trefi cefn gwlad hefyd yn un o flaenoriaethau'r strategaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin sef y Fenter Deg Tref Wledig sy'n ymestyn o Lanymddyfri i Sanclêr.

Mae sawl tref bellach wedi colli pob un o'i banciau. Ac yn Sanclêr, mae dwy o brif siopau annibynnol y stryd fawr wedi cau eu drysau yn ddiweddar iawn.

Rhian White
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhian White yn arfer gweithio ym manc y Midland

Roedd Rhian White yn arfer gweithio ym manc y Midland, pan roedd y dref yn ganolfan fusnes fywiog: "Odd pedwar banc yma bryd hynny, nôl yn y 60au/70au a'r pedwar ar agor bob dydd, trwy'r dydd, ac o'dd mart yma i'r ffermwyr ac odd hi'n dre' brysur iawn, lot o siope bach annibynnol, siope ffrwythe, bara, cig, ac odd hi'n fishi iawn iawn."

Dyw hi ddim yn hyderus fod modd adfywio Sanclêr: "Bydde hynny'n anodd iawn, bydden i'n meddwl achos mae 'di mynd yn rhy bell.

"Ma' bobl yn mynd i lefydd eraill i siopa, ma' nhw hefyd yn siopa ar-lein. A dros y blynyddoedd, mae jyst 'di dirywio. Mae'n drist iawn."

Yn ystod lansiad Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen, yng Nghastell Newydd Emlyn, bydd prif weithredwr yr awdurdod, Wendy Walters, yn manylu am ymrwymiad y cyngor i gydweithio â phartneriaid er mwyn cyflawni'r cynigion i geisio adfywio cymunedau gwledig y sir.