Pwerau tai gwag yn golygu 'risg i gynghorau'
- Cyhoeddwyd
Nid yw pwerau i droi tai gwag yn gartrefi parhaol yn cael eu defnyddio'n ddigon aml oherwydd y gost a'r risg i gynghorau, yn ôl adroddiad.
Gall cynghorau gymryd rheolaeth o eiddo preifat os ydyn nhw mewn cyflwr gwael ac wedi bod yn wag am ddwy flynedd.
Ond fe glywodd ymchwiliad y gallai hyn fod yn "risg enfawr" gan fod y broses yn ddrud a does dim sicrwydd y bydd hi'n gweithio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod ar y trywydd cywir i droi 5,000 o dai gwag yn gartrefi.
Mae ACau yn galw am gynllun cenedlaethol i ddelio â'r bron i 30,000 o gartrefi gwag yng Nghymru.
Lansiodd pwyllgor cydraddoldeb y Cynulliad ymchwiliad yn dilyn pryder bod cartrefi gwag yn niwsans ac yn andwyo cymunedau.
Mae cwynion eu bod yn denu fandaliaid ac yn cael effaith ar brisiau tai cyfagos.
Mewn rhai achosion, mae cartrefi wedi dirwyo oherwydd bod perchnogion wedi eu hetifeddu ond yn methu fforddio adnewyddu'r adeiladau.
Prinder tai
Clywodd y pwyllgor hefyd fod cynghorau yn gorfod delio â pherchnogion oedd yn gwrthod cydweithredu, neu wedi methu canfod perchennog o gwbl.
Ym mis Ebrill 2018 roedd 27,000 o gartrefi dan berchnogaeth breifat yng Nghymru oedd wedi bod yn wag am dros chwe mis - cynnydd 40% ers 2010.
Roedd 1,400 arall yn nwylo cynghorau a chymdeithasau tai.
Dywedodd y pwyllgor ei bod yn "arbennig o rwystredig" bod cartrefi yn mynd yn wastraff pan fod Cymru'n dioddef o brinder tai.
Mae benthyciadau a grantiau di-log ar gael i helpu perchnogion i adnewyddu eiddo.
Gall penodi swyddog cartrefi gwag ym mhob cyngor "wneud gwahaniaeth sylweddol", meddai'r adroddiad.
Mae gan gynghorau bwerau hefyd i adfer tai trwy wneud cais am orchmynion arbennig, ond dim ond pedwar cyngor ddywedodd eu bod yn eu defnyddio, a dim ond tri oedd yn defnyddio'u pwerau i brynu tai yn orfodol.
Pwerau newydd?
Clywodd y pwyllgor fod "risg ariannol sylweddol i awdurdodau lle mae angen gwneud gwaith sylweddol ar eiddo gwag heb unrhyw sicrwydd o ganlyniad cadarnhaol".
Mae'r adroddiad yn argymell creu pwerau newydd i orfodi perchnogion i werthu cartrefi.
Roedd y llywodraeth yn bwriadu cyflwyno trefn o'r fath, ond fe'i gohiriwyd yn ddiweddar.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, John Griffiths: "Mae gan awdurdodau lleol bwerau i ymdrin ag eiddo gwag, ond nid yw cymryd camau gorfodi yn broses syml.
"Mae'n cymryd llawer o amser ac nid oes sicrwydd y bydd yn llwyddiannus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2017