Llifogydd yn 'debygol' mewn rhannau ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am law trwm dros y rhan fwyaf o'r wlad ddydd Gwener gan ddweud fod llifogydd yn "debygol".
Bydd y rhybudd mewn grym o hanner nos tan 18:00 ddydd Gwener, 11 Hydref, ac yn weithredol dros bob sir heblaw Ynys Môn.
Fe allai hyd at 70mm o law ddisgyn dros rannau o Gymru, gyda disgwyl 15-30mm ddisgyn ar hyd y rhan fwyaf o'r wlad.
Fe ddywed y rhybudd fod llifogydd yn debygol mewn rhai cartrefi a busnesau.
Bydd trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn cael ei effeithio gydag amseroedd teithio yn sylweddol hirach.
Fe fydd dŵr ar wyneb y ffyrdd ar draws y wlad hefyd, sy'n debygol o greu amodau anodd i yrwyr.