Ramsey 'i aros yng Nghymru i wella' cyn gêm Croatia
- Cyhoeddwyd

Nid yw Aaron Ramsey wedi chwarae i Gymru ers mis Tachwedd 2018
Daeth cadarnhad nad yw Aaron Ramsey wedi teithio gyda gweddill carfan Cymru i Slofacia ar gyfer eu gêm nesaf yn rowndiau rhagbrofol Euro 2020.
Mae'r tîm hyfforddi wedi penderfynu cadw'r chwaraewr yng Nghaerdydd yn dilyn pryderon am ei ffitrwydd.
Ond mae Cymru'n obeithiol y bydd Ramsey ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Croatia yng Nghaerdydd nos Sul.
Y tro diwethaf i'r Ramsey, 28, chwarae dros Gymru oedd ym mis Tachwedd 2018.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ddydd Sadwrn, yn ystod buddugoliaeth Juventus dros Inter Milan, fe dreuliodd Ramsey y gêm gyfan ar y fainc ar ôl i'r hyfforddwr Maurizio Sarri ddweud bod un o'i gyhyrau wedi teimlo'n dynn tra'r oedd yn cynhesu yn ystod hanner amser.
Nid yw Ramsey wedi chwarae yn yr un o gemau rhagbrofol Cymru yn y gystadleuaeth hyd yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2019
- Cyhoeddwyd22 Mai 2019
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2016