Chwilio'n parhau am fenyw ifanc ar goll o Drelewis
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu ym Merthyr Tudful ymysg dros 100 o bobl sy'n parhau i chwilio am fenyw ifanc sydd ar goll ers oriau mân fore Sadwrn.
Does neb wedi gweld Brooke Morris, 22 oed, ers iddi gael pas adref i Bontnewydd Terrace, Trelewis, gan bobl yr oedd yn eu hadnabod ar ôl noson allan yng nghanol Merthyr.
Mae'r heddlu'n credu na wnaeth fynd i mewn i'w chartref, ond dydyn nhw ddim yn gwybod beth oedd ei symudiadau nesaf.
Mae swyddogion arbenigol yn parhau gyda'r chwilio ac yn canolbwyntio ar Drelewis a'r cyffiniau gan gynnwys coedwigoedd ac afonydd cyfagos.
Cafodd Brooke Morris ei disgrifio fel menyw 5'3" o daldra gyda gwallt hir brown. Pan aeth ar goll roedd yn gwisgo jîns a chrys llewys hir coch.
Mae'r chwilio'n cael ei drefnu gan Glwb Rygbi Treharris ble roedd gwirfoddolwyr yn canolbwyntio ar ardal goediog ger Treharris.
Mae Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog hefyd wedi bod yn cynorthwyo gyda'r chwilio.
Dywedodd Huw Jones eu bod wedi stopio chwilio am y tro wrth i'r heddlu barhau gyda'i ymchwiliad, ond ychwanegodd y byddan nhw'n barod i ail ddechrau os oes angen.
Dywedodd yr Arolygydd Ben Rowe o Heddlu'r De: "Rydym wedi cael ymateb gwych gan y gymuned leol gyda llawer yn cynnig cynorthwyo gyda'r chwilio am Brooke.
"Rydym yn mynd yn fwyfwy pryderus amdani."
Dylai unrhyw un a welodd Brooke ar ôl tua 02:30 fore Sadwrn, 12 Hydref, ffonio'r heddlu ar 101 gan nodi'r cyfeirnod *378028.