Dedfrydu ymosodwr Cymru, Tom Lawrence am yfed a gyrru

  • Cyhoeddwyd
Tom Lawrence yn cyrraedd Llys Ynadon DerbyFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Tom Lawrence yn cyrraedd Llys Ynadon Derby ddydd Mawrth

Mae ymosodwr Cymru, Tom Lawrence wedi pledio'n euog i gyhuddiad o yrru dan ddylanwad alcohol.

Plediodd y pêl-droediwr 25 oed yn euog hefyd i gyhuddiad o fethu â stopio wedi damwain yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A6 ger Derby ar 24 Medi.

Clywodd Llys Ynadon Derby bod prawf anadl wedi amlygu 58 meicrogram o alcohol yn ei waed i bob 100 miligram o anadl, o'i gymharu â'r lefel gyfreithiol, sef 35 meicrogram.

Plediodd ei gyd-chwaraewr yn Derby County, Mason Bennett, 23, yn euog i'r un cyhuddiadau.

Roedd gan yntau lefel o 64 miligram o alcohol yn ei gorff, yn ôl prawf anadl.

Cafodd y ddau orchymyn cymdeithasol 12 mis a gwaharddiad rhag gyrru am ddwy flynedd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Sir Derby
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r cerbydau wedi'r gwrthdrawiad ar 24 Medi

Dywedodd y Barnwr Rhanbarthol, Jonathan Taaffeehe wrth ddedfrydu bod y ddau ddiffynnydd "yn ffodus iawn i fod yma heddiw" wedi "gwrthdrawiad allai fod wedi arwain at farwolaeth".

Ychwanegodd: "Rydych chi'ch dau yn ddynion ifanc deallus a thalentog sydd wedi dwyn gwarth ar eich hunain, eich teulu, eich proffesiwn a'ch clwb."

Ffoi cyn dychwelyd

Cafodd y ddau eu harestio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car Range Rover Sport a Mercedes yn ardal Allestree.

Roedden nhw wedi bod mewn digwyddiad ar gyfer holl dîm Derby pan darodd cerbyd Lawrence gefn cerbyd Bennett ychydig cyn hanner nos.

Clywodd y llys bod car Lawrence wedi mynd ar draws cylchfan cyn taro "dodrefn stryd".

Fe adawodd y ddau y safle cyn dychwelyd 45 munud yn ddiweddarach.

Dywedodd Marianne Connally ar ran yr erlyniad bod criw o barafeddygon "trwy hap yn llwyr" wedi gweld y gwrthdrawiad a rhoi cymorth i ddau deithiwr wrth i'r diffynyddion ffoi.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Mason Bennett yn euog i'r un cyhuddiadau â Lawrence yn Llys Ynadon Derby

Dywedodd Lucy Whitaker, ar ran Bennett, ei fod yn cyfaddef yfed "rhywfaint o alcohol" ond yn gyrru'n "hollol normal" adref.

Cafodd "sioc lwyr", meddai, pan darodd car Lawrence ei gerbyd yntau ac "fe aeth i banig" wedi hynny.

Dywedodd ei fod wedi cael galwad ffôn gan Lawrence, wedi i'r ddau adael safle'r gwrthdrawiad, yn gofyn iddo ei godi o garej ac fe aethon nhw'n ôl i'r gylchfan.

'Effaith seicolegol marwolaeth ei fam'

Ar ran Lawrence, dywedodd Shaun Draycott bod tystlythyrau, gan gynnwys un gan reolwr Cymru, Ryan Giggs, yn amlygu "ymddygiad anghyson â chymeriad... dyn ifanc parchus".

Mae'n fater o "ofid eithriadol", meddai, bod y diffynnydd wedi gwneud rhywbeth mor ddifrifol ond fe bwysleisiodd ei fod "ddim yn osgoi ei gyfrifoldebau".

"Yn anhygoel, â bod yn blaen, fe benderfynodd yrru car gan wybod ei fod dan ddylanwad alcohol," dywedodd Mr Draycott.

"Fe achosodd ddifrod i'w gerbyd ei hun, i gerbyd rhywun arall, ac i'w enw da ei hun."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lawrence ei gynnwys yng ngharfan Cymru i wynebu Slofacia a Chroatia, er bod y gemau ddyddiau cyn ei ymddangosiad llys

Ychwanegodd Mr Draycott bod Lawrence wedi dod yn "eithaf dibynnol" ar alcohol ers marwolaeth ei fam, gan fod y ddau mor agos.

Mae'r farwolaeth, meddai, "wedi effeithio'n fawr ar iechyd seicolegol y dyn ifanc yma".

Cafodd capten Derby, Richard Keogh, oedd yn teithio yn un o'r cerbydau, anaf i'w ben-glin a fydd yn ei atal rhag chwarae am hyd at 15 mis.

Cafodd Lawrence a Bennett eu beirniadu gan eu clwb am eu hymddygiad, a dirwy o chwech wythnos o gyflog - y swm mwyaf oedd yn bosib dan eu cytundebau gyda'r clwb.