Dirwyon o £420,000 am dorri coed hynafol

  • Cyhoeddwyd
Safle adeiladuFfynhonnell y llun, Tony Fitzgerald
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y coed eu torri wrth i cwmni Enzo Homes godi 80 o dai ger ystâd Penlle'r-gaer

Mae datblygwr tai a chontractwr torri coed wedi cael dirwyon o £420,000 rhyngddyn nhw am dorri 70 o goed oedd wedi'i diogelu, gan gynnwys cochwydden hynafol.

Cafodd cyfarwyddwr cwmni Enzo Homes, Fiorenzo Sauro a'r contractwr, Arwyn Morgan eu herlyn gan Gyngor Abertawe ar ôl torri coed ger datblygiad tai ym Mhenlle'r-gaer y llynedd.

Cafwyd Sauro, 50, a'r cwmni'n euog ym mis Awst o dorri gorchymyn diogelwch coed.

Clywodd Llys Ynadon Abertawe ddydd Mawrth bod y gochwydden yn dirnod amlwg yn yr ardal ac "yn arwyddocaol yn hanesyddol".

Cafodd y coed eu plannu 1842 gan berchennog hen ystâd Penlle'r-gaer, y botanegydd John Dillwyn Llewelyn.

Roedd yr erlyniad wedi dadlau bod dim modd ail-sefydlu'r un amodau yn y tir wedi i'r coed hynafol gael eu torri.

Edifar

Dywedodd Sauro wrth y llys ym mis Awst bod y gochwydden wedi'i thorri'n ddamweiniol wedi i rywrai beidio â dilyn ei gyfarwyddiadau.

Clywodd gwrandawiad ddydd Mawrth bod dim mantais ariannol i'r diffynyddion.

Ffynhonnell y llun, Andy Thorndycraft
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna gred bod y gochwydden yn un o'r coed cyntaf erioed i gael eu plannu yn y DU

Cafodd Sauro ddirwyon o £180,000 a bydd yn rhaid talu £7,500 mewn costau.

Bydd yn rhaid i Enzo Homes dalu dirwy o £120,000 a £7,500 mewn costau.

Ar ôl pledio'n euog i'r un cyhuddiadau, cafodd Morgan. 51, ddirwy o £120,000 a gorchymyn i dalu £2,000 o gostau.

Dros £66,000 oedd amcan-werth y gochwydden, ac roedd 72 o goed eraill yn werth £1,000 yr un.

Clywodd y llys bod Sauro eisoes wedi archebu coed o blanhigfa gyda'r bwriad o'u plannu o fewn dwy flynedd yn lle'r rhai gafodd eu torri.

Dywedodd bargyfreithiwr Morgan fod yntau, fel Sauro, yn "edifar iawn", gan ymddiheuro ar ei ran.