Beirniadu sticeri 'sinigaidd' gan Ysgrifennydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Letter
Disgrifiad o’r llun,

"Dim masnachwyr diwahoddiad, dim galwadau 'oer' gan elusennau, dim grwpiau crefyddol, dim canfaswyr gwleidyddol," medd y sticeri.

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cael ei feirniadu am yrru sticeri at ei etholwyr sy'n rhybuddio canfaswyr gwleidyddol rhag curo ar eu drysau.

Mae'r sticeri yn rhestru pobl fydd ddim yn derbyn croeso wrth y drws.

Mae Llafur wedi cwyno i'r Comisiynydd Safonau Seneddol, gan gyhuddo Alun Cairns o geisio atal pleidiau eraill rhag siarad ag etholwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Cairns ei fod am roi "modd o leihau nifer y bobl sy'n curo'r drws" i'w etholwyr.

'Atal ei wrthwynebwyr gwleidyddol'

Mae Mr Cairns yn cynrychioli Bro Morgannwg yn San Steffan - etholaeth ymylol lle mae ganddo fwyafrif o 2,190 dros Lafur (yn Etholiad Cyffredinol 2017).

Gyda'r sticer mae llythyr ar bapur swyddogol Tŷ'r Cyffredin, ac fe gafodd y cyfan ei yrru mewn amlen Tŷ'r Cyffredin.

Yn ei lythyr, dywedodd Mr Cairns: "Mae rhybuddion fel hyn wedi gweld lleihad dramatig yn nifer y galwadau 'oer' i'r rhai sydd eisoes yn eu defnyddio."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alun Cairns ei ailethol fel AS Bro Morgannwg yn 2017

Dywedodd darpar ymgeisydd Llafur yn etholaeth Bro Morgannwg, Belinda Loveluck-Edwards: "Mae'n ymddangos fod Alun Cairns yn defnyddio arian cyhoeddus i geisio atal ei wrthwynebwyr gwleidyddol rhag siarad ag etholwyr. Rhaid ymchwilio i hyn.

"Dyma ymgais fwriadol i greu cymhariaeth ffug rhwng canfasio gwleidyddol didwyll a'r rhai fyddai am dwyllo pobl fregus."

Mae Llafur wedi gwneud cwyn i'r Comisiynydd Safonau Seneddol am y daflen.

'Sinigaidd'

Dywedodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth, Sally Stephenson, fod hyn yn "wastraff llwyr o arian trethdalwyr" ac "ymdrech sinigaidd gan y Ceidwadwyr i rwystro trafodaeth ddemocrataidd".

Yn ôl y cod ymddygiad, ni chaiff aelodau seneddol ddefnyddio adnoddau cyhoeddus mewn modd a fyddai'n "rhoi mantais annheg i sefydliad gwleidyddol".

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Cairns: "Mae nifer o gwynion wedi bod am y cynnydd yn nifer y galwadau niwsans, a thwf yr economi stepen drws ym Mro Morgannwg.

"Cyn i'r clociau gael eu troi yn ôl, mae Alun am ddarparu i'w etholwyr dull o leihau nifer y bobl sy'n curo ar eu drysau."