Cadarnhad mai corff Brooke Morris gafodd ei ganfod
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai'r corff gafodd ei ganfod mewn afon ddydd Mercher oedd Brooke Morris, a aeth ar goll wedi noson allan.
Daeth Heddlu De Cymru o hyd i gorff menyw yn afon Taf ger Abercynon ddydd Mercher.
Bu swyddogion yn chwilio yn afonydd yr ardal fel rhan o'u hymchwiliad i ddiflaniad Ms Morris, 22.
Mae'r crwner wedi cael gwybod ac mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi teulu Ms Morris.
Bydd archwiliad post mortem i farwolaeth Ms Morris yn digwydd maes o law.
Cafodd Ms Morris ei gweld ddiwethaf yn oriau mân fore Sadwrn ar ôl noson allan yng nghanol Merthyr Tudful.
Dros y dyddiau'n dilyn ei diflaniad, bu dros 100 o wirfoddolwyr yn chwilio am Ms Morris, gan gynnwys aelodau o Glwb Rygbi Treharris.
Cafodd ei gweld am y tro diwethaf y tu allan i'w chartref yn Bontnewydd Terrace, Trelewis.
Mae'r heddlu wedi diolch i'r gymuned leol am eu cymorth yn y chwilio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2019