Dippy'r diplodocws yn cyrraedd Amgueddfa Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae un o ddinosoriaid enwocaf Prydain wedi cyrraedd Cymru wrth i Dippy adael y Natural History Museum a chyrraedd Caerdydd.
Mae'r diplodocws wedi bod yn sefyll yng nghyntedd yr amgueddfa yn Llundain ers 1905 ac mae ar daith o amgylch y DU ers Chwefror 2018.
Roedd yn rhaid i staff Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd adeiladu'r sgerbwd unwaith eto o'r newydd gan ddefnyddio'r 292 darn o esgyrn.
Bydd modd i bobl ymweld â Dippy yng Nghaerdydd o 10:00 ddydd Gwener, ac fe fydd y cyfle i'w weld yn parhau tan 26 Ionawr, 2020.
Yn ogystal â'r cyfle i weld Dippy, bydd Amgueddfa Cymru hefyd yn cynnig nifer o weithgareddau cysylltiedig ac arddangosfeydd arbennig yn y galerïau hanes naturiol.