Pryder dros ddyfodol swyddi gweithwyr siopau Bonmarché

  • Cyhoeddwyd
Siop BonmarchéFfynhonnell y llun, Geography Photos

Mae yna bryder dros ddyfodol swyddi gweithwyr siopau Bonmarché wedi i'r cwmni gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Bydd y siopau'n parhau ar agor wrth i'r gweinyddwyr geisio dod o hyd i brynwr ar gyfer y busnes

Mae yna 21 o siopau Bonmarché yng Nghymru - 318 drwy'r DU yn cyflogi 2,887 o bobl.

Dywedodd y prif weithredwr, Helen Connolly bod y cam yn destun "gofid a thristwch" ond bod amodau anodd y Stryd Fawr yn gwneud hi'n amhosib iddyn nhw gystadlu.

"Rydym wedi treulio misoedd yn asesu ein model busnes a chwilio am syniadau gwahanol," meddai, "ond rydym wedi gorfod dod i'r casgliad bod ein model ni jest ddim yn gweithio, dan delerau presennol y busnes."

Mae'r cwmni, sydd â phencadlys yn Sir Efrog, yn arbenigo ar werthu dillad ar gyfer merched dros 50.

Mae gan y cwmni siopau yn:

Aberdâr

Abertawe

Bae Colwyn

Bangor

Y Barri

Caerfyrddin

Caerdydd

Caerffili

Casnewydd

Castell-nedd

Cwmbrân

Glynebwy

Hwlffordd

Llandudno

Llanelwy

Merthyr Tudful

Port Talbot

Penybont

Pontypridd

Wrecsam

Y Coed Duon

Y Fenni