Rhybudd melyn am law trwm yn y rhan helaeth o Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhybudd yn berthnasol i bob rhan o Gymru oni bai am Ynys Môn a Phen Llŷn
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm a chyson dros y deuddydd nesaf allai effeithio ar bron bob rhan o Gymru.
Bydd y rhybudd yn dod i rym rhwng 12:00 dydd Gwener a 18:00 ddydd Sadwrn.
Y darogan yw mai dim ond Ynys Môn, Pen Llŷn a Sir y Fflint fydd yn osgoi tywydd garw.
Mae disgwyl rhwng 30-50mm o law, a hyd at 120mm ar dir uchel.
Fe allai'r tywydd achosi llifogydd, toriadau mewn cyflenwadau trydan, ac amodau anodd i deithwyr.
Fe fydd y sefyllfa'n waeth ar dir uchel oherwydd gwyntoedd cryfion o'r de-orllewin.