Llawdriniaeth i osgoi sepsis wedi brathiad pryf cop

  • Cyhoeddwyd
Louise Edwards a false widow spiderFfynhonnell y llun, Louise Edwards / Natural History Museum

Mae menyw 49 oed o Fro Morgannwg wedi gorfod cael llawdriniaeth ar ôl mynd yn ddifrifol wael wedi brathiad pryf cop.

Y gred yw bod y corryn ar glustog yr oedd Louise Edwards yn cario dan ei braich wrth iddi glirio'r hafdy yng ngardd ei chartref yn Y Barri.

Cafodd grawniad poenus a chwyddodd i "faint bar o sebon" ac roedd yn agos at droi'n septig, yn ôl meddygon a roddodd driniaeth iddi.

"Wnes i ond dechrau ofni pan soniodd staff ysbyty am sepsis - mae pobl yn marw o hwnnw," meddai.

Mae Ms Edwards nawr yn codi ymwybyddiaeth ynghylch peryglon y fath frathiadau.

Gwenwyn o hyd yn ei chorff

Cafodd ei brathu ym mis Awst - o bosib gan false widow spider, sef pryf cop mwyaf gwenwynig Prydain.

Ar ôl byw gyda'r cosi a'r boen yn y lle cyntaf, fe chwyddodd yr anaf i faint pêl golff, a bu'n rhaid i feddygon dorri'r brathiad o'i chorff.

Cymrodd ran yn Hanner Marathon Caerdydd ar 9 Hydref, ond yn ddiarwybod iddi roedd yna wenwyn o hyd yn ei chorff.

"O fewn ychydig ddyddiau o weld fy meddyg teulu, roedd wedi dyblu o ran maint," meddai.

Ffynhonnell y llun, Louise Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Ms Edwards gael llawdriniaeth wedi i'r brathiad chwyddo

"Dywedodd nyrs wrtha'i bod lefel fy haint yn agos iawn at sgôr sepsis, a dylwn i fod ar y llawr. Dyna pryd ro'n i'n wirioneddol poeni."

Treuliodd Ms Edwards ddeuddydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yng Nghaerdydd yr wythnos yma ac mae'n parhau i gael gofal cyson i fonitro a thrin yr anaf.

"Mae'n ddychrynllyd i feddwl bod yr haint yn dal yn fy nghorff heb i mi wybod," meddai.

'Pobl methu credu'

"Dydw i heb fod yn yr hafdy ers hynny. Doedd fy mab a finnau ddim yn or-hoff o bryfed cop yn y lle cyntaf ond mae hyn wedi gwneud i ni'n dau yn waeth.

"Dydy pobl methu credu bod hyn wedi digwydd yn Y Barri, ac nid tramor, ond mae angen i bobl wybod bod y pryfed cop yma o gwmpas ac i gadw golwg barcud ar unrhyw frathiadau."

Disgrifiad o’r llun,

Steatoda nobilis, neu'r false widow spider yw pryf cop mwyaf gwenwynig Prydain

Mae'r angen i fod yn wyliadwrus ar ei anterth yn ystod tymor paru traddodiadol y pryf cop, sef diwedd yr haf a dechrau'r hydref.

Ond yn ôl Dr Tim Cockerill o Brifysgol De Cymru, mae'r mathau o bryfed cop sydd yn y DU "ond yn beryglus i bryfed bach".

Ychwanegodd bod dim sail i fwyafrif yr argymhellion i gadw pryfed cop o'r cartref, fel gosod concyrs yng nghorneli stafelloedd.

Mae'r false widow spider tua'r un maint â darn 50 ceiniog, ac mae ganddo gorff brown gyda marciau lliw hufen nodweddiadol a choesau orengoch, ond does dim cofnod bod unrhyw un yn y DU wedi marw ar ôl cael ei frath gan un ohonyn nhw.