Gallai oedi i gytundeb masnach Brexit fod yn 'niweidiol'

  • Cyhoeddwyd
eff Gwillim
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Jeff Gwillim wedi bod yn ffermio yn Nhalgarth, Powys ers 1700

Mae ffermwyr a mewnforwyr bwyd yn dweud gallai oedi i gytundeb fasnach ar ôl Brexit fod yn ddinistriol.

Os yw cytundeb presennol Boris Johnson yn cael ei dderbyn, fe allai hyd at bum mlynedd o drafod fod ar y gweill.

Os bydd cynnyrch o Gymru ei eisiau ar draws y byd, mae arbenigwyr yn dweud y gallai ansicrwydd olygu bod cwsmeriaid yn chwilio am gyflenwyr newydd.

Mae hyd yn oed pobl wnaeth bleidleisio i aros yn yr UE ac sy'n gweithio yn y diwydiant bwyd yn dweud eu bod eisiau'r broses ddod i ben er mwyn gallu diogelu swyddi.

Beth nesaf?

Tra bod y ddadl Brexit yn parhau yn San Steffan, mae ffermwyr o Gymru, mewnforwyr bwyd a pherchnogion archfarchnadoedd yn monitro effaith bosib unrhyw gytundeb ar eu diwydiant.

Mae'r wlad yn anfon 60% o allforion fel cig oen i wledydd o fewn yr UE.

Mae rhaglen BBC Wales Investigates wedi siarad gyda phobl ar draws y diwydiant bwyd i gael eu barn ar beth ddylai ddigwydd nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mike Gooding yn allforio cig

Ag yntau'n prynu miloedd o ddefaid ar draws Cymru bob wythnos i'w gwerthu i 12 gwlad o fewn yr UE, mae Mike Gooding yn deall i'r dim maint y diddordeb ym mwydydd y DU, a sgil effeithiau'r oedi gwleidyddol presennol.

"Ar hyn o bryd mae'r rhyddid gennym ni i fasnachu ar draws y byd drwy ein haelodaeth o'r UE," meddai.

"Brexit neu ddim Brexit fe fydd yn rhaid i ni drafod telerau newydd ac mae hynny'n broses a allai gymryd amser.

"Mae'n rhaid i ni, fel diwydiant, ddeffro i'r ffaith ein bod mewn gêm ddifrifol. Nid yw'n achos o droi fyny a dweud 'dyma ein cynnyrch, onid ydych chi ei eisiau?' Oherwydd yr ateb fydd 'mae gennyf ddigon o gynigion eraill'.

"Y sefyllfa orau fysa sortio'r problemau gwleidyddol ond cadw ein trefniadau masnachu i fynd."

'Bygythiad'

Matthew Hunt sy'n rhedeg Filco Supermarkets - cadwyn o siopau annibynnol o sefydlwyd ym Mro Morgannwg yn 1946.

Mae'n cyflogi cannoedd o weithwyr mewn 13 o siopau ar draws de Cymru.

Ar hyn o bryd mae'n gallu cael bwydydd ffresh yn sydyn o Ewrop, ac mae'r posibilrwydd o dollau ychwanegol yn destun pryder.

"Byddai unrhyw gynnydd mewn costau yn fygythiad i ni," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jeff Gwillim bleidleisio i adael yr UE yn 2016

Mae teulu Jeff Gwillim wedi bod yn ffermio yn Nhalgarth, Powys ers 1700. Mae rhan fwyaf o'i ddefaid yn cael eu gwerthu ar y cyfandir.

Ar ôl pleidleisio i adael yr UE yn 2016, mae Mr Gwillim yn dal o blaid Brexit ond gyda chytundeb masnach.

Fel nifer o ffermwyr yng Nghymru, mae'n pryderu ynghylch y posibilrwydd o orfod talu 40% mewn tollau wrth allforio os na fydd cytundeb.

Mae'n gwerthu mwy o ddefaid na'r arfer ar hyn o bryd gan ofni gostyngiad yn eu pris.

"Mae'r farchnad allforio yn hanfodol i'r holl ddiwydiant," meddai. "Mae pethau'n fwy ansicr ar hyn o bryd.

"Y peth gwaethaf allai ddigwydd yw bod y farchnad yn cwympo. Maen nhw'n cael eu gadael ar y fferm, mae'r tywydd yn troi ac mae'r defaid yn llwglyd sy'n rhywbeth dydyn ni ddim eisiau ei weld."

'Cyfleoedd newydd'

Mae'r darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, Dr Edward Jones yn dweud bod hi'n bosib y bydd yna gyfloedd newydd ar y gorwel unwaith daw Brexit i ben, ond mae'n rhybuddio bod disgwyl prisiau uwch yn y siopau.

"Un o'r manteision ar ôl gadael yr UE fydd cael rheolaeth dros ein tollau," meddai.

"Mae fyny i'r llywodraeth benderfynu pa dollau i osod ac i ysgogi mewnforio neu'r cynnyrch fydd ei angen arnom.

"Mae'r llywodraeth wedi dweud eu bod yn disgwyl prisiau bwydydd gynyddu 10% dan eu cynlluniau Brexit. Ond wrth edrych ar gwymp y bunt yn ddiweddar, byddai'n disgwyl cynnydd gwirioneddol o 15% os na fyddwn yn cael cytundeb fasnach gyda'r UE."

BBC Wales Investigates Brexit: Food for Thought, nos Lun 28 Hydref ar BBC One Wales ac ar BBC IPlayer.