Pryder dros fywyd gwyllt coedwig yn sgil cynllun argae

  • Cyhoeddwyd
Save Dinas Powys WoodsFfynhonnell y llun, Save Dinas Powys Woods/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o drigolion lleol wedi lleisio eu barn yn erbyn cynlluniau Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae trigolion ym Mro Morgannwg yn pryderu am ddyfodol bywyd gwyllt yn sgil cynlluniau i dorri darn o goedwig yno.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystyried codi argae yn ardal Dinas Powys, mewn ymgais i atal llifogydd.

Un o'r trigolion sydd yn gwrthwynebu'r syniad o gael argae ar y tir coedwig ydy Dewi Jones o bentref cyfagos Lanfihangel y Pwll.

Dros y misoedd diwethaf, mae Mr Jones wedi bod yn ymgyrchu dros achub y coed ar hyd afon Tregatwg.

"Ni'n erbyn yr argae am sawl rheswm," meddai. "Ni wedi cynnig sawl syniad i Gyfoeth Naturiol Cymru am sut i atal llifogydd heb y gwariant hwn.

"Byddai'r syniadau arall yn osgoi dinistrio safle gwych a safle unigryw i'r bobl sy'n byw yn yr ardal."

'Colli rhywbeth gwych'

Mae Mr Jones yn rhan o grŵp 'Save Dinas Powys Woods'. Mae dros 1,000 o bobl wedi ymuno â thudalen Facebook y grŵp ers i'r ymgyrchu ddechrau.

"Mae'n hyfryd i weld cymaint o bobl ifanc yn poeni amdano'r coed," meddai.

Mae'r grŵp wedi creu posteri a phamffledi, cynnal ralïau ar y tir a chynnal cyfarfodydd cyhoeddus.

Maen nhw'n galw ar CNC i ystyried opsiynau eraill i'r tir. Os oes argae yn cael ei godi, bydd hi'n golled enfawr i fyd natur, meddai Mr Jones.

Ffynhonnell y llun, Save Dinas Powys Woods/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried nifer o opsiynau i leihau'r perygl o lifogydd yn Ninas Powys

"Mae'r goedwig wedi bod yno am ganrifoedd," meddai Mr Jones. "Byddwn ni'n colli rhywbeth gwych.

"Mae rhywbeth fel 50,000 o ymwelwyr yn dod fan hyn pob blwyddyn. Mae llwyth o bobl yn cerdded eu cŵn. Maen nhw'n dod fan hyn pob dydd."

Mewn datganiad, fe ddywedodd CNC eu bod nhw'n ystyried nifer o opsiynau i leihau'r perygl o lifogydd yn Ninas Powys.

Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto ond mae CNC wedi cydnabod bod bywyd gwyllt Cymru yn parhau i ddirywio.

Fe ddywedodd datganiad hefyd bod pobl leol wedi cael y cyfle dros yr haf i roi eu barn a nawr mae'r corff yn defnyddio'r safbwyntiau hynny wrth lunio a datblygu opsiynau posib.